Module Information

Cod y Modiwl
AD20120
Teitl y Modiwl
Seicoleg Dysgu a Meddwl
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 6 Awr   Cyflwyniad llafar  Bydd y cyflwyniadau yn 8 munud o hyd ond bydd myfyrwyr yn gwrando ar gyflwyniadau eraill ac felly bydd disgwyl iddynt fynychu am y diwrnod cyfan (6 awr).  40%
Arholiad Semester 6 Awr   Cyflwyniad llafar  Bydd y cyflwyniadau yn 8 munud o hyd ond bydd myfyrwyr yn gwrando ar gyflwyniadau eraill ac felly bydd disgwyl iddynt fynychu am y diwrnod cyfan (6 awr).  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  2400 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  2400 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o natur gymhleth prosesau meddwl ac egwyddorion prif ddamcaniaethau dysgu.

Gwerthuso'r feirniadol ddamcaniaethau, ffyrdd a dulliau o asesu dysgu a meddwl.

Trafod yn feirniadol ddadleuon wrth drafod damcaniaethau, ffyrdd a dulliau o ddysgu a meddwl.

Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw, ac fe'i cynllunnir yn benodol i, ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud a meddwl a dysgu. Mae'r damcaniaethau hyn yn cynnwys: damcaniaethau Piaget a Vygotsky, ynghyd a damcaniaethau dysgu eraill. Bydd adfyfyrio ar ymarfer cyfredol yn allweddol i'r modiwl hwn. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i gynnal trafodaethau mewn grwpiau bach er mwyn hybu eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n sail i'r damcaniaethau mawr a'u cymhwysiad.

Nod

Mae cynnwys y modiwl yn seiliedig ar y themau canlynol:
Datblygiad cyn-geni
Datblygiad yr ymennydd
Damcaniaethau gwybyddol
Datblygiad iaith
Problemau ymddygiad plant
Damcaniaethau dysgu
Damcaniaeth Darogan Meddwl
Prosesu gwybodaeth
Anhwylderau datblygiadol
Adfyfyrio ar Ymarfer Cyfredol

Cynnwys

Mae cynnwys y modiwl yn seiliedig ar y themau canlynol:
Datblygiad cyn-geni
Datblygiad yr ymennydd
Damcaniaethau gwybyddol
Datblygiad iaith
Problemau ymddygiad plant
Damcaniaethau dysgu
Damcaniaeth Darogan Meddwl
Prosesu gwybodaeth
Anhwylderau datblygiadol
Adfyfyrio ar Ymarfer Cyfredol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy ddarlithoedd a seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Yn ogystal, bydd y cyflwyniad llafar yn asesu cyfathrebu llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Caiff sgiliau empathi eu datblygu drwy'r amser a'u cymhwyso i yrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn elfen o'r cyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid prosesu geiriau ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig a bydd y cyflwyniad llafar yn golygu defnyddio TG.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5