Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Asesiad 1 Deialog academaidd yn seiliedig ar bynciau'n ymwneud â'r cwricwlwm 15 Munud | 50% |
Arholiad Semester | Asesiad 1 Deialog academaidd yn seiliedig ar bynciau'n ymwneud â'r cwricwlwm 15 Munud | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad 2 Dylunio gêm Asesu ar gyfer Dysgu, a rhesymeg wrth gyfiawnhau'r gêm 500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Asesiad 2 Dylunio gêm Asesu ar gyfer Dysgu, a rhesymeg wrth gyfiawnhau'r gêm 500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso'n feirniadol gysyniadau sy'n llywio dadleuon ar gynllunio'r cwricwlwm
Dangos dealltwriaeth feirniadol o ddatblygu, trefniadau ac asesiadau'r cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr yn ogystal ag yn fyd-eang
Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif faterion sydd i'w hystyried wrth ddylunio trefniadau asesu priodol
Myfyrio a chymhwyso theori asesiadau ac asesu ar gyfer dysgu yn ymarferol
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn archwilio tirwedd y cwricwlwm, dylunio cwricwlwm a chynllunio ac asesu ar draws gwahanol systemau addysgol, gan ganolbwyntio ar safbwyntiau Cymru, Lloegr a byd-eang. Bydd myfyrwyr yn plymio'n ddwfn i ddiffiniadau, ideolegau a chyd-destunau hanesyddol y cwricwlwm, ochr yn ochr ag esblygiad strategaethau asesu. Trwy gyfuniad o ddeialog academaidd a chymhwyso ymarferol, mae'r modiwl yn herio myfyrwyr i werthuso'n feirniadol y cwricwlwm a dylunio offer asesu arloesol, gan gyfoethogi eu dealltwriaeth o effeithiolrwydd addysgol ac atebolrwydd. Mae'r cwrs yn gorffen gyda chreu gêm 'Asesu ar gyfer Dysgu', gan feithrin defnydd creadigol o gysyniadau damcaniaethol. Yn y modiwl hwn, byddwch yn ateb cwestiynau fel 'beth yw'r cwricwlwm a pha rôl y mae'n ei chwarae wrth ddysgu a datblygu?' 'Pa ffactorau sy'n llunio'r cwricwlwm, ac a oes agenda wleidyddol mewn cwricwla cenedlaethol?', 'Pam a sut rydym yn asesu?', 'Pwy a beth ddylem ni ei asesu?', 'Pwy a beth ddylem ni ei asesu?' a llawer mwy.
Cynnwys
Diffiniadau, ideolegau, damcaniaethau ac athroniaeth cwricwla
Hanes y cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr a'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'i asesiadau yn Lloegr
Y Cwricwlwm Cymreig a'r Cwricwlwm i Gymru 2022 a'i asesiadau
Safbwyntiau byd-eang ar gwricwlwm ac asesiadau
Atebolrwydd ac asesiadau mewn addysg – cyflwyniad i gysyniadau allweddol mewn dylunio asesiadau
Cwmpas asesu a phwrpas a ffurfiau anaddysgol asesiadau
Dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau
Asesu ar gyfer Dysgu: egwyddorion ac ymarfer
Asesu a Lles
Asesiadau mewn AU
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Gwella dysgu a pherfformiad |
Cydlynu ag erail | Gwaith tîm |
Cyfathrebu proffesiynol | Cyfathrebu trwy ddeialog academaidd |
Datrys Problemau Creadigol | Datrys problemau |
Gallu digidol | Technoleg gwybodaeth |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Meddwl beirniadol a dadansoddol. |
Myfyrdod | Datblygiad personol a chynllunio gyrfa |
Sgiliau Pwnc-benodol | Cymhwyso rhif |
Synnwyr byd go iawn | Cyflogadwyedd |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5