Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Adolygiad Gweithredu 1800 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad 1 Poster academaidd a rhesymeg 500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Asesiad 1 Poster academaidd a rhesymeg 500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd Adolygiad Gweithredu 1800 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Archwilio'n feirniadol y rhyng-gysylltiadau rhwng addysg, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol.
Gwerthuso rôl addysg wrth hyrwyddo cynaliadwyedd a meithrin dinasyddiaeth foesegol mewn cyd-destunau lleol a byd-eang.
Cymhwyso egwyddorion cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol i arferion a pholisïau addysgol yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Dylunio a gwerthuso gweithgareddau dysgu sy'n briodol i'w hoedran sy'n integreiddio cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol mewn lleoliadau addysgol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn archwilio cysyniadau cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol o fewn cyd-destunau addysgol. Mae'n archwilio rôl addysg wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang a meithrin dinasyddiaeth gyfrifol. Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â theorïau, polisïau ac arferion allweddol sy'n gysylltiedig ag addysg cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru. Mae'r modiwl yn pwysleisio cymhwysiad ymarferol, gan alluogi myfyrwyr i ddylunio profiadau dysgu sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol mewn lleoliadau addysgol.
Cynnwys
Education for sustainability and ethical citizenship in the Welsh curriculum and policy context
Global challenges and the role of education in addressing them
Pedagogical approaches to sustainability and ethical citizenship education
Integrating sustainability and ethical citizenship across the curriculum
Cultural diversity, social justice, and global awareness in education
Assessment and evaluation of sustainability and ethical citizenship learning
Cysyniadau allweddol mewn addysg cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol
Addysg ar gyfer cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol yng nghwricwlwm a chyd-destun polisi Cymru
Heriau byd-eang a rôl addysg wrth fynd i'r afael â nhw
Dulliau addysgegol o addysg cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol
Integreiddio cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol ar draws y cwricwlwm
Amrywiaeth diwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol, ac ymwybyddiaeth fyd-eang mewn addysg
Asesu a gwerthuso dysgu cynaliadwyedd a dinasyddiaeth foesegol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio creadigrwydd trwy gydol y modiwl. |
Cydlynu ag erail | Bydd gwaith tîm yn cael ei ddatblygu drwy weithgareddau grŵp. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd sgiliau cyfathrebu yn elfen allweddol drwy gydol y modiwl a bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos hyn yn y poster. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd gofyn i fyfyrwyr feddwl yn greadigol i werthuso a mynd i'r afael â heriau byd-eang. |
Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth drwy gydol y modiwl. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd Meddwl Beirniadol a Dadansoddol yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl. |
Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn myfyrio ar faterion cyfredol ac yn ystyried eu rhan wrth fynd i'r afael â'r rhain. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu drwy gydol y modiwl. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd ymwybyddiaeth fyd-eang yn nodwedd allweddol o'r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4