Module Information

Cod y Modiwl
RG10810
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  60%
Arholiad Semester 1.5 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  40%
Asesiad Semester Adroddiad technegol ar gynhyrchu anifeiliaid.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Disgrifio'r systemau pwysig o gynhyrchu a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau

2. Adnabod y prif rwystrau i gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn

3. Cymharu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o gynhyrchu ar gyfer pob system

4. Trafod cymhwyso ymchwil wyddonol i gynhyrchu anifeiliaid

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i brif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau) a'u cynllun yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a'r byd. Cyfeirir yn benodol at rwystrau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i gynhyrchu, a phwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid. Tynnir sylw at y cwmpas ar gyfer cymhwyso gwybodaeth ac ymchwil wyddonol fel sylfaen ar gyfer modiwlau dilynol.

Cynnwys

1. Ar gyfer pob un o'r prif systemau cynhyrchu anifeiliaid (cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau), cyflwyniad i:

a. Y gwahanol systemau o gynhyrchu a'r heffeithiolrwydd, cryfderau a gwendidau perthnasol
b. Cyd-destun economaidd a deddfwriaethol cyfredol pob system
c. Iechyd a rhwystrau eraill i gynhyrchu ym mhob system

2. Cymhwyso'r ymchwil i gynhyrchu anifeiliaid, gan gynnwys biotechnoleg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol drwy'r arholiad a'r aseiniad, lle caiff y rhain eu hasesu. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Ceir elfen o ddatrys problemau yn yr aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn yr aseiniad a rhoddir adborth arno.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad, a hynny y tu allan i oriau cyswllt ffurfiol. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Rhifedd Bydd elfen o drafod rhifau yn perthyn i'r aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn rhan o'r aseiniad a rhoddir adborth.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir ac asesu cysyniadau sy'n benodol i'r pwnc sy'n ymwneud â chynhyrchu anifeiliaid yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y darlithoedd ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil drwy'r arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ganfod testunau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4