Module Information

Cod y Modiwl
MOR0300
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  yn trafod dulliau ymchwil yr ymgeisydd  50%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad beirniadol  ar y sesiynau hyfforddi au gwerth (2000 gair)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  yn trafod dulliau ymchwil yr ymgeisydd  50%
Asesiad Semester Adroddiad beirniadol  ar y sesiynau hyfforddi au gwerth (2000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau a thrwy wahanol gyfryngau.

Byddant yn medru asesu'n feirniadol ystyriaethau moesol a chyfreithiol wrth gynllunio a gwneud eu hymchwil, gan gynnwys hawlfraint, llen-lladrad, preifatrwydd, etc.

Byddant yn medru arddangos rhychwant o sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys ysgrifennu (traethodau, erthyglau, adolygiadau ac adroddiadau), darlithio, cyflwyno papurau seminar, siarad ar y cyfryngau, defnyddio'r rhyngrwyd, a sgyrsio'n anffurfiol.

Byddant yn medru deall sut y mae trefnu amser ac adnoddau yn effeithiol a chwblhau tasgau ymchwil yn brydlon ac i safon uchel.

Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.

Byddant wedi ystyried sut y mae gweithio'n effeithiol fel rhan o dim, a sut i roi cyngor academaidd a'i dderbyn.

Disgrifiad cryno

Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod

Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol ym maes llenyddiaeth a hanes a diwylliant Cymraeg, a sut i ysgrifennu traethawd graenus yn y Gymraeg.

Cynnwys

Ymchwil yn y Brifysgol
Y Traethawd Ymchwil
Cywain gwybodaeth
Ysgrifennu Academaidd
Cyflwyno ar Lafar
Cynllunio i'r Dyfodol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml.
Cyfathrebu proffesiynol Datblygir: Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu.
Datrys Problemau Creadigol Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys.
Gallu digidol Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, e-bost a chronfeydd data electronig.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Datblygir: Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7