Module Information

Cod y Modiwl
GQ23920
Teitl y Modiwl
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Tasg blog  1500 o eiriau  40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiadau yn lle perfformiad seminar  (2 x 250 gair)  10%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Tasg blog  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Perfformiad seminar  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Diffinio a thrafod prif nodweddion y dull cymharol.

2. Diffinio a thrafod cysyniadau gwleidyddol allweddol fel ideoleg, anghydraddoldeb a’r wladwriaeth.

3. Diffinio a thrafod perthnasoedd etholiadol, poblyddol, awdurdodaidd a rhai sydd wedi’u gwreiddio’n gymdeithasol.

4. Trafod cymhwyso’r dull cymharol gyda golwg ar gyfres o enghreifftiau empirig.

5. Dynodi rôl ffenomena gwleidyddol allweddol yn siapio perthnasoedd gwleidyddol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r rhesymeg y tu ol i arferion gwleidyddiaeth gymharol. Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o gysyniadau a thrafodaethau allweddol am wahanol rymoedd a pherthynasoedd gwleidyddol ac yn gweld sut y maent yn cysylltu ag enghreifftiau a dynnir o ymarfer gwleidyddiaeth mewn gwahanol rannau o’r byd. Bydd thema anghydraddoldebau gwleidyddol yn amlwg drwy gydol y modiwl a bydd gofyn i fyfyrwyr adfyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y caiff anghydraddoldebau gwleidyddol eu creu a’u cynnal a sut y gellid eu goresgyn.

Cynnwys

Addysgir y modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Caiff y darlithoedd eu paru, gan archwilio cysyniadau neu berthnasoedd allweddol mewn theori ac yna’n ymarferol (yn gymharol). Ymhlith y ffenomena gwleidyddol a astudir yn ystod y modiwl mae ideoleg, anghydraddoldeb a rôl y wladwriaeth. Bydd y perthnasoedd gwleidyddol yn cynnwys rhai etholiadol, poblyddol, awdurdodaidd a rhai sydd wedi’u gwreiddio’n gymdeithasol (fel clientelyddiaeth neu lygredd) yn ogystal â mudiadau cymdeithasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i’w defnyddio. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r ffynonellau gwybodaeth niferus sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf mwyaf priodol o gyfathrebu yn y ffordd orau. They Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu canolbwyntio’n agos ar ddeunydd perthnasol i amcanion eu dadl neu’r drafodaeth. Bydd y modiwl hwn yn profi sgiliau cyfathrebu llafar gan ei fod yn cynnwys perfformiad seminar a asesir. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith yn eu gwaith ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modiwl wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol fel siarad gyda grwpiau bach a mawr, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill, yn ogystal â mynegi eu hunain yn glir yn ysgrifenedig.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno traethawd a pharatoi at seminar yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; cymhwyso modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai o faint.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach a mawr yn y seminarau i ystyried gwahanol agweddau ar y pwnc ac aseiniadau darllen penodol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain. Bydd yr angen i baratoi ar gyfer cyfranogiad mewn seminar a asesir a chwrdd â dyddiadau cau gwaith cwrs yn canoli sylw myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl; Gallu gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd; Dangos technegau ymchwil penodol i’r pwnc; Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio cyfryngau a ffynonellau gwe, yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio Blackboard i gyrchu deunyddiau’r modiwl, defnyddio gwefannau perthnasol, defnyddio Turnitin i gyflwyno traethodau a chael adborth i’w traethodau a marciau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5