Module Information

Cod y Modiwl
GC33520
Teitl y Modiwl
Gwyddeleg Modern (iaith a llen) 3 + 4
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad llafar  10 Minutes  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o dasgau rheolaidd  (8 tasg) 1500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Arholiad llafar  10 Minutes  20%
Asesiad Semester Portffolio o dasgau rheolaidd  (8 tasg) 1500 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg gyda hyder.

Byddwch yn gallu dirnad darlithiau tra chymleth yn yr Wyddeleg.

Byddwch yn gallu trafod eich darllen trwy gyfrwng yr Wyddeleg.

Byddwch yn gallu ysgrifennu traethawd tra datblygedig yn yr Wyddeleg.

Byddwch wedi darllen (a) storiau byrion detholedig gan awduron pwysicaf yr ugeinfed
ganrif a (b) samplau o farddoniaeth o'r cyfnod 1700-2000.

Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol eich
darllen.

Disgrifiad cryno

Dosbarthiadau ieithyddol ar dafodieithoedd yr Wyddeleg, ffonoleg, morffoleg; ac ar Wyddeleg safonol. Cyfieithu o'n naill iaith i'r llall. Dosbarthiadau llenyddol yn trafod nofelau Gwyddeleg yr ugeinfed ganrif, a datblygiad yr hunangofiant Gwyddeleg.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cynnwys gweithdai iaith, darlithiau llenyddol, a chyfloedd i ymarfer yr iaith ac i drafod y llenyddiaeth dan sylw.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau sy'n eu galluogi i siarad yr Wyddeleg yn hyderus mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd myfyrwyr yn trafod materion gramadegol mewn gweithdai ac yn gallu esbonio materion gramadegol yn eu haseiniadau ac yn yr arholiad.
Datrys Problemau Creadigol Ymateb i heriau technegol sydd ymhlyg mewn gramadeg a thasgau gramadegol penodol; bydd myfyrwyr yn anelu at gywirdeb gramadegol
Myfyrdod Mae'r gweithdai iaith yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafodtasgau iaith a chyfeitihiadau; mae pecyn o dasgau rheolaidd yn caniatau i fyfyrwyr fesur a myfyrio ar eu perfformiad ac ar eu datblygiad personol.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae'r sgiliau ieithyddol llafar ac ysgrifenedig a ddatblygir ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6