Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 24 Awr Ailgyflwyno Ailgyflwyno elfen(nau) a fethwyd fel y pennir gan Fwrdd Arholi'r Adran | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol 2000 Words | 40% |
Asesiad Semester | Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig 1000 Words | 20% |
Asesiad Semester | 1 Awr Tasg Cyfathrebu Llafar | 20% |
Asesiad Semester | 4 Awr Tasg Rifiadol | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos meistrolaeth ar dechnegau rhifiadol ar gyfer modelu systemau ffisegol
Defnyddio technegau uwch ar gyfer cyfrifiadura a dadansoddi gwyddonol
Cyfansoddi adroddiad ysgrifenedig ar dechnegau cymhwysol a'u canlyniadau
Cyflwyno syniadau cymhleth trwy drafodaeth ysgrifenedig a llafar
Gwerthuso cyhoeddiadau cyfnodolion gwyddonol yn feirniadol
Disgrifiad cryno
Mae ymchwil cyfoes yn aml yn gofyn am gymhwyso dulliau rhifiadol i ddatrys problemau mewn ffiseg. Mae hefyd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu a chyflwyno syniadau a chanlyniadau yn glir. Mae'r modiwl hwn yn cyfuno cymhwyso technegau rhifiadol a dulliau cyfathrebu i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol.
Cynnwys
- Datrys systemau gwasgarog o hafaliadau llinol gan ddefnyddio dulliau iterus
- Brasamcanu hafaliadau differol rhannol gan ddefnyddio dulliau gwahaniaeth meidraidd
- Datrys problemau gan ddefnyddio dulliau Monte Carlo
- Efelychu systemau mecanyddol ystadegol gan ddefnyddio dulliau metropolis Monte Carlo
- Cyflwyno technegau rhifiadol a chanlyniadau
- Arddulliau ysgrifennu a chyflwyniad llafar
- Dadansoddi papurau cyfnodolion ac adroddiadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Trafodaeth, gwerthuso beirniadol a datrys problemau trwy gydol y modiwl |
Cyfathrebu proffesiynol | Drwy gydol y modiwl |
Datrys Problemau Creadigol | Drwy gydol y modiwl, yn enwedig o ran cymhwyso technegau rhifiadol i adeiladu modelau ffisegol |
Gallu digidol | Drwy gydol y modiwl |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Drwy gydol y modiwl |
Myfyrdod | Yn gynhenid i ddadansoddi, a chymhwyso adborth |
Sgiliau Pwnc-benodol | Rhaglennu, dulliau rhifiadol, cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar), dadansoddi beirniadol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7