Module Information
Cod y Modiwl
FG15510
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Hefyd ar gael yn
Pre-Requisite
Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc, Gwyddor y Gofod a Roboteg neu Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Asesiad Semester | Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac yn gofyn am nifer gwahanol o eiriau. Bydd dyddiadur nodweddiadol oddeutu 200 gair yr arbrawf. | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad Labordy 1000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
Cynhyrchu adroddiad gwyddonol wedi ei ysgrifennu’n glir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Disgrifiad cryno
Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.
Cynnwys
• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.
Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.
Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. |
Gwaith Tim | Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau. |
Rhifedd | Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiad labordy. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4