Module Information

Cod y Modiwl
DA31200
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig Cymdeithaseg
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd hir ysgrifenedig  12000 o eiriau  90%
Asesiad Ailsefyll Sgript ar gyfer Cyflwyniad llafar  Lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno’r data maent wedi eu casglu a’u ddadansoddi’n rhagarweiniol. 10 Minutes  10%
Asesiad Semester Traethawd hir ysgrifenedig  12000 o eiriau  90%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  Lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno’r data maent wedi eu casglu a’u ddadansoddi’n rhagarweiniol. 10 Minutes  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad trwyadl mewn gwyddor cymdeithas.

Cyflawni ymchwil empiraidd i safon uchel, gan gynnwys casglu data cynradd.

Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.

Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.

Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol uwch dan arweiniad myfyrwyr. Bydd pwnc priodol yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan y goruchwyliwr a / neu gydlynydd modiwl traethawd hir. Mae'r prosiect yn cynnwys pum cam: (i) nodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil priodol; (ii) ymchwil empeiraidd i gasglu data sylfaenol a / neu goladu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel sy'n briodol ar gyfer y mater ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canfyddiadau yng nghyd-destun gwybodaeth a damcaniaethau presennol; (iv) cyflwyno cyflwyniad wedi'i asesu; a (v) cynhyrchu traethawd hir 12000 o eiriau.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad myfyrwyr. Dyrennir goruchwyliwr i bob myfyriwr ar ôl y Pasg yn eu hail flwyddyn a fydd yn darparu arweiniad ar ddatblygu ac adrodd ar y prosiect. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth i'w hastudiaeth annibynnol mewn nifer o gyd-destunau gwahanol:
Bydd sesiynau grŵp mawr yn cael eu darparu gan gydlynydd y modiwl i gyflwyno myfyrwyr i'r modiwl a nodau'r traethawd hir.
Bydd goruchwylwyr yn cynnal cyfarfodydd goruchwylio prosiect ffurfiol gyda myfyrwyr ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac yn ystod y drydedd flwyddyn. Bydd y cyfarfodydd hyn yn gymysgedd o gyfarfodydd un i un a grwpiau bach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy gynhyrchu'r traethawd hir. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy'r cyflwyniad. Gellir eu datblygu hefyd trwy ymchwil empeiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil lafar (e.e. cyfweliadau a holiaduron).
Datrys Problemau Creadigol Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg a chynllun ymchwil priodol, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir wrth gasglu data.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth nodi ffynonellau data a chasglu data (ee rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (ee pecynnau ystadegol), wrth gynhyrchu'r traethawd terfynol (ee prosesu geiriau a / neu GIS a pecynnau mapio), ac wrth baratoi a chyflwyno'r cyflwyniad llafar.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd sgiliau pwnc-benodol yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y modiwl hwn. Byddant yn amrywio yn dibynnu ar natur y traethawd hir a gynigir. Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6