Module Information

Cod y Modiwl
DA10000
Teitl y Modiwl
Byw mewn Byd Peryglus
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Sgript ar gyfer Cyflwyniad grŵp  15 Munud  50%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad  1500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad grŵp  15 Munud  50%
Asesiad Semester Adroddiad  1500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth o safonau, disgwyliadau ac arferion ar lefel prifysgol.

Nodi ffynonellau data ac adnoddau priodol ar gyfer gwaith academaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, a dangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.

Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios y dyfodol.

Asesu risg yn feirniadol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau perygl.

Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o fygythiadau cymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r prif beryglon sy’n wynebu cymdeithas a’r ffyrdd yr eir i’r afael â hwy a’u rheoli trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Byddwch yn archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau cymdeithasol a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o’r fath ac yn ystyried tueddiadau hanesyddol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol mewn hinsawdd sy’n newid.

Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd yn trafod amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd afonol, peryglon seismig a folcanig, a diogelwch bwyd a dŵr.

Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth.
Cydlynu ag erail Myfyrwyr i weithio fel tîm i gyflwyno'r cyflwyniad grŵp.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol, a chyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion lliniaru posibl, ac yn gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau o'r fath.
Gallu digidol Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer yr adroddiad, a meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio, gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad. Bydd myfyrwyr yn cynnal dadansoddiad o ffynonellau academaidd ac anacademaidd ac yn cynhyrchu adroddiad academaidd briodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae’r darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynd i’r afael â dadleuon a themâu allweddol ym maes pwnc y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddiad ystadegol o dueddiadau.
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau, credoau a rhinweddau personol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4