Module Information

Module Identifier
BBM1220
Module Title
Rheoli Deunydd Gwastraff
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Distance Learning
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cyflwyniad  (20 munud)  35%
Semester Assessment Astudiaeth Achos  (2,500 o eiriau)  40%
Semester Assessment Profion byr  (tua 3 awr - drwy gydol y modiwl)  0%
Semester Assessment Fforymau ar-lein  Isafswm 1,200 o eiriau  25%
Supplementary Assessment Aseiniad 3  40%
Supplementary Assessment Aseiniad 2  35%
Supplementary Assessment Aseiniad 1  Gall myfyrwyrail-eistedd elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl  25%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Esbonio'r heriau cyfredol ac y dyfodol sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff yn y gadwyn cyflenwi bwyd

2. Gwerthuso cyfleoedd ar gyfer gweithredu systemau rheoli gwastraff gwell ar draws cadwyni cyflenwi bwyd

3. Gwerthuso dulliau newydd ar gyfer datrysiadau rheoli gwastraff bwyd cynaliadwy

4. Dadansoddi effeithiolrwydd gwahanol systemau rheoli gwastraff bwyd yn feirniadol

5. Cymharu a chyferbynnu fframweithiau gwneud penderfyniadau ar gyfer gwneud y gorau o reoli gwastraff

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg rheoli gwastraff, gan ystyried strategaethau rheoli gwastraff o bob rhan o'r sbectrwm o fathau o fusnesau o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.

Bydd yn ymdrin â buddion rheoli gwastraff yn effeithiol, yn tynnu sylw at ymchwil berthnasol ac yn cynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd

Content

Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn benodol i reoli adnoddau yn y sector bwyd gan dynnu sylw at yr ymchwil berthnasol ddiweddaraf ym maes cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd. Bydd yn cwmpasu'r canlynol:

1. Pwysigrwydd rheoli gwastraff yn effeithiol (effeithlonrwydd adnoddau, deddfwriaeth, effeithiau amgylcheddol)

2. Trosolwg o'r economi gylchol; ACB; ac atal/lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu, prisio

3. Fframweithiau gwneud penderfyniadau ar gyfer rheoli adnoddau

4. Atal/lleihau gwastraff (rheoli adnoddau dros ben, mapio'r cyflenwad i'r galw)
• Astudiaethau achos o gynhyrchu, prosesu a manwerthu e.e. datrysiadau amaeth-dechnoleg - 3G yn mapio cynnyrch yn ôl y galw, Llofiad rhwydwaith/ailddosbarthu,

5. Ailddefnyddio adnoddau dros ben -
• Astudiaethau achos, e.e. cynlluniau adneuo, ailgyflenwi

6. Ailgylchu - Astudiaethau achos, e.e. deunydd lapio silwair

7. Prisio llif gwastraff -
• Astudiaethau achos o gynhyrchu, prosesu a manwerthu, e.e. caroten, gwrthocsidyddion, porthiant anifeiliaid

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data yn eu haseiniadau a bydd disgwyl iddynt egluro neu ddangos tystiolaeth i gefnogi honiadau o enillion ariannol, lleihau gwastraff, ac ati yn yr astudiaeth achos.
Communication Disgwylir i fyfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol yn eu haseiniadau a thrafod pynciau perthnasol â'i gilydd yn y fforymau.
Improving own Learning and Performance Rhoddir adborth manwl o waith aseiniad i fyfyrwyr weld lle y gellid gwneud gwelliannau cyn aseiniadau dilynol. Bydd asesiad ffurfiannol ysgrifenedig yn rhoi cyfle di-risg cynnar i gael adborth a bydd 3 fforwm wedi'u hasesu yn olynol a fydd yn cael eu marcio a bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn pryd i gynorthwyo perfformiad yn y fforwm nesaf. Bydd CADd ffurfiannol yn galluogi myfyrwyr i weld lle mae angen iddynt ganolbwyntio eu hastudiaeth hunangyfeiriedig
Information Technology Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddi gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr o anghenion a thechnolegau rheoli gwastraff i'w helpu i ddarparu'r wybodaeth / cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr / cleientiaid yn y diwydiannau bio-seiliedig; cânt eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n benodol ar ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa
Problem solving Defnyddir postiadau fforwm ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gynnig ffyrdd i newid a gwella ffrydiau gwastraff presennol.
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth. Bydd adborth o aseiniadau yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth
Subject Specific Skills Pwysigrwydd a dulliau rheoli gwastraff yn effeithiol. Gwerthuso'r gwahanol ddulliau
Team work Bydd fforymau ar-lein yn ei wneud yn ofynnol i fyfyrwyr drafod ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn.

Notes

This module is at CQFW Level 7