Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Prosiect ymchwil ymholiad proffesiynol: Cais Ymchwil Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Cais ymchwil ac adolygiad llenyddiaeth cyflym 1500 o eiriau | 40% |
Semester Assessment | Cyflwyniad Ymchwil Prosiect ymchwil ymholiad proffesiynol Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Rhan 2 Cyflwyno canfyddiadau ymchwil i diwtoriaid a myfyrwyr eraill. 10 Munud | 60% |
Supplementary Assessment | Prosiect Ymchwil Astudiaeth Ddesg Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Rhan 1 Cais ymchwil ac adolygiad llenyddiaeth cyflym ar gyfer ymchwil Rhan 2 Gwerthusiad beirniadol o ddulliau priodol a myfyrio ar brofiad. Cyflwynir y ddwy ran gyda'i gilydd 4000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth gysyniadol uwch o addysgeg pwnc-benodol ac ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn eu harbenigedd.
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o'r Cwricwlwm i Gymru ac ymwybyddiaeth feirniadol uwch o greu cwricwlwm yn y pwnc neu'r cyfnod arbenigol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion cynllunio effeithiol ac yn dangos sgiliau cynllunio ymreolaethol, gan nodi strategaethau priodol i ddiwallu anghenion pob dysgwr o fewn eu pwnc neu gyfnod arbenigol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion dilyniant ac asesu i werthuso asesu yn feirniadol a'u defnyddio i nodi cynnydd pob dysgwr o fewn eu pwnc neu gyfnod arbenigol.
Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth uwch a chynhwysfawr o dechnegau ymholi proffesiynol i ymchwilio i'w harfer eu hunain, a chreu a dehongli gwybodaeth o fewn eu harbenigedd.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddyfnhau eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn datblygu ymhellach eich cymhwysedd wrth ddylunio'r cwricwlwm ac yn ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio damcaniaethau caffael iaith i ddatblygu eich addysgu dwyieithog. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc neu gyfnod a byddwch yn cael cyfle i ddatblygu prosiect ymchwil sydd wedi'i gynllunio i wella ymarfer. Byddwch yn deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol yn well ac yn datblygu dull unigolyn-ganolog yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Bydd eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu yn cael eu cydgrynhoi.
Aims
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddyfnhau eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn datblygu ymhellach eich cymhwysedd wrth ddylunio'r cwricwlwm ac yn ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio damcaniaethau caffael iaith i ddatblygu eich addysgu dwyieithog. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc neu gyfnod a byddwch yn cael cyfle i ddatblygu prosiect ymchwil sydd wedi'i gynllunio i wella ymarfer. Byddwch yn deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol yn well ac yn datblygu dull unigolyn-ganolog yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Bydd eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu yn cael eu cydgrynhoi.
Content
2. Gofynion cwricwlwm sy'n benodol i arbenigedd; cynllunio dysgu; addysgeg gwrth-hiliol; asesu ar gyfer dysgu sy'n benodol i addysgeg arbenigol. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
3. Cynllunio ar gyfer pob dysgwr o fewn arbenigedd; meicro-addysgu. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
4. Themâu allweddol mewn addysgu a dysgu arbenigol: gwybodaeth ddisgyblaethol ar gyfer TGAU mewn pynciau priodol; gwerthuso meicro-addysgu; FfCD – o fewn arbenigedd. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
5. Myfyrio, gwerthuso ac adolygu o brofiad ysgol 1; gwybodaeth a chynnwys disgyblaethol e.e. TGAU, dysgu annibynnol, darpariaeth uwch. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPh. Cyflwyno sgiliau ymchwil. MDaPH Iechyd a Lles o fewn arbenigedd.
6. Gwybodaeth a chynnwys disgyblaethol ar gyfer AS/Lefel A / darpariaeth uwch (Dysgu Sylfaen); strategaethau sy'n benodol i arbenigedd i gefnogi dysgwyr ag ADY. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPh.
7. Cynllunio prosiect ymchwil. Cynllunio ar gyfer / Cyfarwyddo CD. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPH.
8. Cynhadledd ymchwil ac asesu.
9. Diwrnodau Partneriaeth: Addysgeg ac asesu pwnc-arbenigol; ymchwil pwnc arbenigol; Cynllunio prosiect ymchwil.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Adaptability and resilience | Rhaid i fyfyrwyr addasu i dri lleoliad ysgol. |
Co-ordinating with others | Mae myfyrwyr yn dysgu gweithio gyda mentoriaid a chydweithwyr. |
Creative Problem Solving | Bydd myfyrwyr yn cynllunio gwersi ac adnoddau yn greadigol ar gyfer pob dysgwr yn eu gofal. |
Critical and analytical thinking | Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu'n feirniadol ag ymchwil addysgol sy'n gysylltiedig â'u harbenigedd ac yn cymryd rhan mewn ymchwil i'w hymarfer eu hunain. |
Digital capability | Bydd myfyrwyr yn cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eu haddysgu. |
Professional communication | Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu â chydweithwyr, rhieni a gofalwyr. |
Real world sense | Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri lleoliad mewn ysgolion. |
Reflection | Bydd myfyrwyr yn dod yn ymarferwyr myfyriol. |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu hymarfer yn eu pwnc neu eu cyfnod arbenigol. |
Notes
This module is at CQFW Level 7