Module Information

Cod y Modiwl
AD14420
Teitl y Modiwl
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  2100 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  900 o eiriau  30%
Asesiad Semester Traethawd 1  900 o eiriau  30%
Asesiad Semester Portffolio  2100 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall a gwerthuso'r prif egwyddorion sy'n sail i ddeddfwriaeth, polisi ac ymarfer blynyddoedd cynnar mewn gweithio mewn partneriaeth

Myfyrio'n feirniadol a gwerthuso ar yr angen am weithio mewn partneriaeth mewn lleoliad blynyddoedd cynnar

Datblygu'r gallu i weithio a chyfathrebu'n effeithiol â phartneriaid mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar

Disgrifiad cryno

Mae gweithio mewn partneriaeth yn ganolog i waith ymarferwyr y blynyddoedd cynnar. Bydd y modiwl hwn yn edrych ar fodelau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a pham mae dulliau o'r fath yn hanfodol yn y blynyddoedd cynnar.
Bydd sgiliau arweinyddiaeth i sicrhau bod gwaith partneriaeth llwyddiannus yn cael eu hadlewyrchu a thrafodir ymyriadau i ddatblygu'r rhain. Rhoddir cyfle i archwilio gweithio mewn partneriaeth yn ymarferol yn ystod y lleoliad 50 awr.

Cynnwys

Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:
Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:

1. Gweithio mewn partneriaeth

2. Dulliau yn seiliedig ar hawliau

3. Arwain a rheoli gwaith partneriaeth (gan gynnwys damcaniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth)

4. Ymagweddau, sgiliau a rhinweddau ar gyfer arwain a rheoli timau yn effeithiol

5. Arwain recriwtio a sefydlu

6. Perfformiad tîm effeithiol a rheoli gwrthdaro

7. Arloesi a newid

8. Hyfforddi a mentora

Wythnosau 9 a 10 – bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau (cyfanswm o 50 awr). Trwy gydol y sesiynau seminar, bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i leoliadau a'u trefnu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd angen datblygu y sgil yma wrth drefnu a mynd ar leoliad.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y sgil hon yn elfennol o fewn y lleoliad.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Mae'r sgill hwn yn hanfodol ar gyfer gwaith ysgrifennu a phortffolio.
Myfyrdod Disgwylir i bawb fyfyrio ar eu profiad ar leoliad.
Synnwyr byd go iawn Mae lleoliad yn rhan hanfodol o'r gwaith yn y modiwl hwn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4