Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Taith Astudio 4000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad Taith Astudio 4000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos y gallu i ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol o ystod o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.
Dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig.
Mabwysiadu agwedd feirniadol, werthusol a dadansoddol tuag at amaethyddiaeth a’r economi wledig.
Gwerthuso rhagolygon y diwydiant amaeth yn y dyfodol.
Dangos sut y byddai sgiliau cyflogadwyedd pwnc-benodol a chyffredinol a enillwyd yn werthfawr i sefydliadau gwledig.
Disgrifiad cryno
Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn ymweld â sir neu ranbarth ar daith astudio ac yn dod i werthfawrogi ei nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn astudiaethau achos i amlygu'r materion allweddol presennol ac yn y dyfodol sydd yn y fantol. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig a fydd yn gwerthuso’r rhanbarth a’r sefydliadau yr ymwelwyd â nhw a sut y byddai’r sgiliau y maent wedi’u hennill yn werthfawr i’r sefydliadau. Bydd yr ymagwedd drwyddi draw yn ddadansoddol, yn feirniadol ac yn gwerthusol.
Cynnwys
Cyflwynir y modiwl trwy gyfuniad o ymweliadau a wneir tra ar daith astudio o amgylch busnesau, sefydliadau a safleoedd neu leoliadau yng nghwmni gwesteiwyr a/neu dywyswyr arbenigol. Ategir y rhain gan sesiynau pellach ar ôl y daith astudio i gynorthwyo myfyrwyr gyda'u hasesiad.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu 'llythyr eglurhaol' i fynegi eu diddordeb mewn ymgeisio am rôl yn un o'r sefydliadau y canolbwyntir arnynt yn y modiwl. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr werthuso cryfderau a gwendidau sefydliadau gwledig o’r byd go iawn a dadansoddi sut mae eu gweithrediadau yn cael eu dylanwadu gan eu hamgylchedd ffisegol, rheoleiddiol, economaidd-gymdeithasol a pholisi a sut y gall y rhain newid yn y dyfodol. |
Myfyrdod | Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio ar sut y byddai'r sgiliau generig a phwnc-benodol y maent wedi'u hennill o fudd i sefydliadau gwledig penodol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd gofyn i fyfyrwyr 'meincnodi' perfformiad sefydliadau gwledig trwy gymharu â ffynonellau data priodol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6