Module Information
Cod y Modiwl
RG20720
Teitl y Modiwl
Gwyddor a Thechnoleg mewn Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad lleoliad gwaith 10 Munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad technoleg amaethyddol 1000 o eiriau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Maeth Anifeiliaid - asesu porthiant a dogni 3500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad lleoliad gwaith 10 Munud | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad technoleg amaethyddol 1000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Maeth Anifeiliaid - asesu porthiant a dogni 3500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Asesu rôl gwyddoniaeth a thechnoleg yn y gweithle amaethyddol a gwerthuso eu perthnasedd i yrfa yn y dyfodol.
Adnabod a thrafod egwyddorion gwyddonol a data i gyfres o broblemau ar y fferm.
Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd anifeiliaid a llunio dognau ar gyfer da byw.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn nodi enghreifftiau o sut y gellir defnyddio technoleg a gwyddoniaeth i gynorthwyo yn y broses o wneud penderfyniadau o fewn systemau cynhyrchu amaethyddol.
Cynnwys
Egwyddorion cyffredinol yn ymwneud â bwydydd anifeiliaid fferm, dadansoddi porthiant, anatomeg treulio, rheoli archwaeth, protein, egni, mwynau a fitaminau. Trafodir gofynion maethol enghreifftiau dethol o dda byw o ran anghenion egni, protein, fitaminau a mwynau, a fe fydd ffocws hefyd ar ddogni porthiant, ac ar anhwylderau maeth.
Bydd y modiwl hefyd yn trafod offer sydd yn sefydlu lefelau addas o fewnbynnau a dulliau o fesur cynhyrchiant ar ffermydd. Gall y pynciau a drafodir yma gynnwys enghreifftiau o systemau cynhyrchu cnydau a da byw manwl gywir.
Bydd y modiwl hefyd yn trafod offer sydd yn sefydlu lefelau addas o fewnbynnau a dulliau o fesur cynhyrchiant ar ffermydd. Gall y pynciau a drafodir yma gynnwys enghreifftiau o systemau cynhyrchu cnydau a da byw manwl gywir.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Cyflwyniad fel asesiad |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd angen datrus problemau i greu dognau i anifeiliaid |
Gallu digidol | Defnydd o feddalwedd GIS, excel a powerpoint |
Synnwyr byd go iawn | Senario gwir fywyd yn cael ei ddefnyddio wrth gwblhau asesiad dogni |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5