Module Information

Cod y Modiwl
RG18420
Teitl y Modiwl
Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Prawf ail-sefyll  40 Munud  40%
Asesiad Ailsefyll Cynllun gwaith ar gyfer Defnydd Diogel o Dechnoleg Fferm  750 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Technoleg Fferm  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Prawf mewn dosbarth  40 Munud  40%
Asesiad Semester Adroddiad Technoleg Fferm  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Cynllun gwaith ar gyfer Defnydd Diogel o Dechnoleg Fferm  750 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio rôl a datblygiad technolegau amaethyddol allweddol

Nodi a gwerthuso rôl Ffermio Manwl Gywir ac egluro'r egwyddorion allweddol dan sylw

Dangos dealltwriaeth o egwyddorion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut y gellir eu cymhwyso i reoli systemau amaethyddol yn fwy effeithlon

Nodi'r mesurau iechyd a diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac arfer gorau ar ffermydd

Arddangos y gallu i gynllunio ar gyfer defnydd diogel ac effeithiol o dechnoleg ar ffermydd

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn disgrifio’r egwyddorion a’r arferion sy’n sail i’r ystod eang o dechnolegau sy’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan y diwydiant amaethyddol. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu gallu i gynllunio ac ymgymryd â sgiliau fferm technegol mewn modd diogel sy'n gyson ag arferion gorau.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn archwilio:
• Datblygiad Peiriannau ac Offer Fferm
• Technoleg Ffermio Fanwl Gywir
• Defnydd o Adnoddau ac Ynni ar Ffermydd
• Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a Mapio Tir Amaethyddol
Bydd y modiwl hefyd yn cynnig y cyfle i ennill profiad o gynllunio gwaith fferm yn ddiogel ac effeithiol ac i ymgymryd â sgil fferm technegol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn creu cynllun gwaith ar gyfer defnyddio technoleg yn ddiogel ar ffermydd. Dylid ysgrifennu hwn mewn modd sy'n adlewyrchu normau cyfredol y diwydiant a gofynion deddfwriaethol.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd swyddfa a meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) wrth gwblhau aseiniadau
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dehongli ffynonellau allanol o wybodaeth a bydd angen iddynt wneud defnydd priodol ohonynt mewn aseiniadau
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio technoleg fferm
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod risgiau yn gywir wrth weithio mewn amgylchedd fferm

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4