Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol 2 Awr | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar 10 Munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Tasgau 1500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Ymarferion 1500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Prawf llafar 10 Munud | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.
2. Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.
3. Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.
4. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.
5. Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.
6. Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.
7. Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.
Disgrifiad cryno
Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn caniatau i ddechreuwyr ddatblygu eu rhyglder yn yr Wyddeleg.
Cynnwys
.Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Ymarfer yr iaith gyda'r tiwtor a myfyrwyr eraill. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth ramadegol a geirfaol i ddatrys heriau gramadegol. |
Gallu digidol | Prosesu geririau a defnyddio meddalwedd i baratoi a chyflwyno gwaith |
Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu cynnydd ieithyddol yn ystod y modiwl. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Gwybodaeth arbenigol o ierfa a gramadeg yr Wyddeleg |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5