Module Information

Cod y Modiwl
DAS0300
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dealltwriaeth o gymhlethdodau a gofynion y broses recriwtio.

2. Cipolwg ar flaenoriaethau'r gweithle o ddydd i ddydd.

3. Cipolwg ar rolau a setiau sgiliau gweithwyr proffesiynol mewn lleoliad cymhwysol.

4. Profiad o ystod o sefyllfaeodd a phroblemau yn y gwaith.

5. Cipolwg ar ymarfer proffesiynol yn y gweithle.

6. Y gallu i fyfyrio ar setiau sgiliau a thystiolaeth i wella twf personol a’u lle yn y farchnad lafur graddedigion yn y dyfodol.

7. Amrediad o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys menter, annibyniaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn leoliad gwaith sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr gaffael ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Mae lleoliad gwaith hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyriwr ddefnyddio eu gwybodaeth ddaearyddol yn ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar y gweithle a rolau proffesiynol, gan hwyluso eu meddwl eu hunain am lwybrau gyrfaoedd a dyheadau.


Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy bortffolio myfyriol ac adroddiad cyflogwr:


- Nod y portffolio yw datblygu gallu'r myfyriwr i adnabod, myfyrio a manteisio ar y sgiliau y maent yn eu hadeiladu yn ystod y lleoliad gwaith.


- Bydd adroddiad y cyflogwr yn rhoi adborth gwerthfawr i'r myfyrwyr ac ADGD ar allu myfyrwyr i gymhwyso cysyniadau, sgiliau, dulliau a / neu ddamcaniaethau daearyddol mewn cyd-destun ymarferol.


Mae'r holl fyfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau eu lleoliad eu hunain.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn yn leoliad gwaith `Blwyddyn mewn Diwydiant '. Mae'r lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad yn y gweithle a / neu lleoliad gwirfoddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar leoliad, anogir myfyrwyr i ymarfer eu gwrando, siarad ac ysgrifennu at wahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu mewnwelediad o'u sgiliau eu hunain mewn perthynas â'r lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn deall ac yn defnyddio ystod o strategaethau chwilio am swyddi ac yn cael eu hannog i farchnata eu hunain ar bapur ac yn wyneb i wyneb. Mae'r lleoliad gwaith hwn yn cynnig y cyfle i baratoi, neu gynllunio ar gyfer, llwybrau gyrfa yn y dyfodol a llwybrau i ddilyniant.
Datrys Problemau Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar leoliad disgwylir i fyfyrwyr gael cipolwg ar ddatrys problemau mewn lleoliad cymhwysol; gall hyn gynnwys nodi problemau, gwerthuso atebion posibl, adeiladu gwydnwch mewn lleoliadau sydd â phroblem, neu feddwl yn greadigol i ddatrys problemau.
Gwaith Tim Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra bydd myfyrwyr ar leoliad byddant yn cael cipolwg ar ddeinameg grŵp, nodau grŵp, a'u cyfraniad eu hunain at waith tîm effeithiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu steil dysgu, eu dewisiadau personol eu hunain, a nodau'r dyfodol. Byddant yn cael cipolwg ar ddysgu yng nghyd-destun y gweithle ac yn monitro eu cynnydd eu hunain tuag at eu nodau dysgu.
Rhifedd Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar leoliad, anogir myfyrwyr i ymarferu eu medrau rhifedd mewn nifer o gyd-destunau.
Sgiliau pwnc penodol Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar y modiwl hwn bydd y myfyriwr yn deall ac yn ymarfer eu gwybodaeth ddaearyddol yn y lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar ymarfer proffesiynol ar draws ystod o gyd-destunau.
Sgiliau ymchwil Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar leoliad, rhagwelir y bydd myfyrwyr yn profi sut y defnyddir dulliau ymchwil yn y gweithle ac yn myfyrio ar eu sgiliau arbenigol neu dechnegol.
Technoleg Gwybodaeth Mae lleoliadau gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Tra ar leoliad bydd myfyrwyr yn arsylwi ac, o bosib, yn ymarfer eu sgiliau TG o fewn lleoliad proffesiynol ac ymarferol. Gall hyn gynnwys defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn aml, rheoli systemau storio a defnyddio e-bost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5