Module Information

Cod y Modiwl
CYM6210
Teitl y Modiwl
Uwch Sgilau Golygu
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Hefyd ar gael yn

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Tasg Golygu  Hyd at 1,000 gair  30%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Prawf Dosbarth  40%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth feirniadol  Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1,500 gair.   30%
Asesiad Semester 1 Awr   Prawf Dosbarth  Prawf Dosbarth 1 awr.  40%
Asesiad Semester Sylwebaeth feirniadol  Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1500 gair.   30%
Asesiad Semester Tasg Golygu  Hyd at 1000 gair.  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos meistrolaeth dros faes arbenigol o wybodaeth megis arddulliau golygu ynghyd â meistrolaeth dros sgiliau golygu arbenigol.

Dangos meistrolaeth gadarn dros hanfodion golygu mewn nifer o wahanol gyd-destunau arbenigol.

Dadansoddi’n feirniadol a defnyddio’r prosesau golygu anghenrheidiol wrth fireinio’u sgiliau golygu.

Golygu testunau amrywiol yn hyderus ac at ddibenion niferus.

Trosglwyddo sgiliau golygu i feysydd cysylltiedig megis prawfddarllen, gweithio’n gwbl ddwyieithog a mentora eraill.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu uwch sgiliau golygu o fewn y maes cyfieithu. Rhoddir cyflwyniad manwl i waith golygyddion proffesiynol ac i wahanol gyweiriau a chyd-destunau golygu. Darperir cyfleoedd i ymarfer golygu ac i fanteisio ar brofiad golygyddion cydnabyddedig o fewn y maes wrth ddatblygu sgiliau golygu.

Cynnwys

Trefnir y sesiynau ar ffurf dau ddiwrnod cyswllt dwys a hefyd ar ffurf sesiynau unigol a sesiynau cysgodi arbenigwyr.
Bydd sesiynau’r diwrnodau cyswllt yn cynnwys gweithdai a fydd yn ymwneud â’r elfennau canlynol:
Diwrnod cyswllt 1
• Hanfodion golygu
• Egwyddorion golygu a chysondeb
• Golygu copi
• Golygu creadigol


Diwrnod cyswllt 2

• Sgiliau prawfddarllen a sgiliau ehangach
• Mireinio sgiliau a thrafod gwaith golygyddion proffesiynol
• Golygu cynnyrch cyfieithu peirianyddol
• Cydweithio, adolygu ac ymarfer – sy’n cynnwys adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau aseiniadau.

Bydd yr holl weithdai yn ymwneud â datblygu ymwybyddiaeth o systemau sicrhau ansawdd a datblygu sgiliau golygu ymestynnol.
Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu prosesau prawfddarllen proflenni er mwyn gwneud yn siŵr na chyflwynir unrhyw wallau wrth i’r testun gael ei gysodi; datblygu prosesau adolygu cyfieithiadau a wnaed gan gyfieithydd arall, fel rhan o’r broses o sicrhau ansawdd, a’i gymharu ochr yn ochr â’r testun gwreiddiol; golygu testun yn yr iaith wreiddiol, cywiro gwallau ffeithiol neu ieithyddol a chynnig gwelliannau i’r arddull neu’r cynnwys; datblygu prosesau gwirio testun a ddrafftiwyd gan rywun nad yw’n gyfieithydd, a chywiro unrhyw wallau ieithyddol neu gynnig gwelliannau i’r arddull; datblygu prosesau gwirio cyfieithiadau sy’n gynnyrch cof cyfieithu neu gyfieithu peirianyddol.
Trefnir cyfranwyr allanol i gyfrannu at y diwrnodau cyswllt er mwyn cyfoethogi profiad y myfyrwyr ac er mwyn darparu cyfleoedd iddynt rwydweithio a chydweithio â sefydliadau perthnasol megis cyrff cyhoeddus / gweisg / adrannau’r Llywodraeth.

Sesiynau ychwanegol:
• Sesiynau unigol
• Sesiynau cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith. Disgwylir i’r myfyrwyr dreulio cyfnod byr ar leoliad er mwyn datblygu profiad uniongyrchol ehangach yn y maes e.e. gellir cwblhau tasgau ar leoliad gydag arbenigwyr golygyddol wrth dreulio cyfnod byr yn cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r ymarferion golygu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar ymweliad neu wrth gysgodi golygyddion
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Trwy gyfrwng y gweithdai bydd cyfle hefyd i rwydweithio a chael mewnbwn gan olygyddion profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr o ran gyrfa.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (e.e. geiriaduron, cyfeirlyfrau, cronfeydd ar-lein) wrth ddewis a dethol pa adnoddau i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol a’u golygu. Byddnat yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Wrth gwblhau tasgau bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth yn rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella’u perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr golygu trwy gyfrwng y gweithdai a’r profiad ehangach.
Rhifedd Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau golygu trwy gwblhau cyfres o ymarferion, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu.
Sgiliau ymchwil Trwy’r ymarferion golygu bydd y myfywryr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau cyn gwneud penderfyniadau deallus. Byddant yn ystyried gwahanol gyweiriau a gwahanol gynulleidfaoedd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig. Byddant hefyd yn defnyddio geiriaduron a therminolegau ar-lein, yn ogystal ag amrywiol gyfarpar cyfieithu a golygu, wrth ymarfer a chyflwyno aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7