Module Information

Cod y Modiwl
CYM5310
Teitl y Modiwl
Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol)
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau  100%
Asesiad Semester Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o faes cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i Gymraeg.

Datblygu cywirdeb wrth gyfieithu ar wahanol themâu a phynciau.

Dangos dealltwriaeth well o wahanol gyweiriau iaith a sut i’w defnyddio mewn cyfieithiadau

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o natur a heriau cyfieithu ar y pryd a’r adnoddau sy’n angenrheidiol gyflawni’r gwaith hwnnw

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, gosodir tasgau cyfieithu a fydd yn cyflawni sawl amcan: cyflwyno genres amrywiol ac allbynnau gwahanol (e.e. adroddiadau, taflenni marchnata, cofnodion, tudalennau gwe, ymgyrchoedd hysbysebu, gwerslyfrau) ar themâu megis iechyd a gofal, busnes a’r economi, amaeth a’r amgylchedd, addysg, diwylliant, treftadaeth a’r cyfryngau, ac yn y blaen. Canolbwyntir ar ddatblygu cywirdeb a dethol cyweiriau addas wrth gyfieithu. Cyfieithu ysgrifenedig fydd prif ffocws y modiwl hwn ond cynhelir un ‘blas ar gyfieithu ar y pryd’ o’r Gymraeg i’r Saesneg. Rhagwelir y bydd 66%-75% o’r cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg a 25%-33% o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn adlewyrchu anghenion a realiti’r sector.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfieithu Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg myfyrwyr trwy gyfrwng nifer o dasgau amrywiol, a rhoi blas o gyfieithu ar y pryd.

Cynnwys

i. Bydd 10 sesiwn awr o hyd yn trafod y tasgau a osodir a’r adborth ar y gwaith
ii. Bydd 1 sesiwn 2 awr yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyfieithu ar y pryd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, a hynny ar amrywiol themâu, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn rhoi blas i’r myfyrwyr o gyfathrebu uniongyrchol â chynulleidfa.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa.
Datrys Problemau Bydd y darnau prawf cyfieithu yn profi gallu myfyrwyr i ddethol terminoleg briodol ac i gyfieithu testunau yn gywir ac yn effeithiol.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, ac yn trafod adborth ar eu gwaith, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu unigol wrth fynd rhagddynt ac, ar sail adborth, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg ar amrywiol themâu ac mewn amrediad o gyweiriau gwahanol.
Sgiliau ymchwil Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio, bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd o eirfa benodol
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn defnyddio technoleg briodol ar gyfer y gwaith, er na fydd y sesiwn flasu yn cael ei hasesu’n ffurfiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7