Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad 20 Munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Bydd gofyn i fyfyrwyr syn methur modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol. Os methwyd elfen 2, bydd gofyn am gyflwyniad ysgrifenedig. 500 o eiriau | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect 3000 o eiriau | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad byr yn Semester Un yn trafod y teithiau maes. 500 o eiriau | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad grwp yn Semester Dau 20 Munud | 20% |
Asesiad Semester | Prosiect 3000 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Meddu ar adnabyddiaeth briodol a dwfn o froydd Cymru a'u cysylltiadau llenyddol.
Dangos ystod o sgiliau ymchwilio datblygedig a'r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.
Dangos dealltwriaeth soffistigedig o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.
Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o'u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad beirniadol i gynulleidfa fyw.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn sy'n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o'r diwylliant ehangach, a'u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.
Nod
Datblygir sgiliau beirniadol wrth ddysgu sut i ddehongli a throsglwyddo gwybodaeth am lên a llenorion Cymru i eraill, a gwneud hynny o fewn fframwaith theoretig sy'n holi am natur 'etifeddiaeth' a 'threftadaeth'. Datblygir medrau cyfathrebu mewn nifer o gyfryngau, a sgiliau ysgrifennu a golygu i safon uchel. Datblygir sgiliau ymchwil a medrau cynllunio a marchnata mewn meysydd diwylliannol.
Cynnwys
Yn Semester Un ceir 9 darlith yn cwmpasu'r elfennau hyn:
1. Cysyniadau (5 darlith): etifeddiaeth, treftadaeth; dyletswydd yr Academi i'r cyhoedd; hybu gweithgareddau llenyddol; adloniant v. addysg; swyddogaeth y cyfryngau a'r sefydliadau; amgueddfeydd, orielau; archifau ffilm a llun; llyfrgelloedd; CADW; Comisiwn Henebion; fframwaith y gyfraith; polisi cyhoeddus; asiantaethau; twristiaeth fewnol a thwristiaeth ddiwylliannol.
2. Hunaniaeth broydd Cymru (4 darlith): astudiaethau ar bedwar prosiect enghreifftiol yn cynnig ac yn trafod esiamplau o dechnegau y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth, ac i danio diddordeb yn llên a llenorion y prosiectau hynny.
3. Hefyd yn Semester Un bydd tair taith maes leol.
Yn Semester Dau, bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant (3 awr o ymgynghori unigol) ar brosiect sylweddol a fydd yn esgor ar ddarn gorffenedig o waith addas i'w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podcast neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan; ffilm fer).
Hefyd cynhelir cyfres o weithdai (5 awr) y bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfrannu cyflwyniadau iddynt.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ar bapur ac ar lafar a hefyd drwy orfod cynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd (prosiect, cyflwyniad). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddysgu am faes sydd o'r pwys mwyaf i economi'r wlad; datblygu'r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau), i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio'n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser. |
Datrys Problemau | Drwy ddethol deunydd a'i ddehongli'n effeithiol gan ddatblygu strategaethau priodol at y dasg |
Gwaith Tim | Elfennau o waith tîm yn cael eu cynnwys yn y gweithdai |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy gael adborth gan y darlithwyr, a thrwy drafod gwaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy. |
Rhifedd | Mân elfennau achlysurol gydag ystadegau etc. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Drwy orfod cyrchu amrywiaeth helaeth o ffynonellau ac ymgynefino ag ystod o ddeunyddiau mewn sawl cyfrwng. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, rhaglen PowerPoint, offer digidol, technolegau mapio a dylunio yn ogystal â geirbrosesu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6