Module Information

Cod y Modiwl
CY30420
Teitl y Modiwl
Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Darlleniad creadigol (recordiad)  Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber)  10%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth feirniadol  ynghyd â sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol. 1000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o waith creadigol gwreiddiol  Portffolio o waith creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol; 3000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Noson Lenyddol  Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber).  10%
Asesiad Semester sylwebaeth feirniadol  ar y darnau creadigol. 1000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Portffolio o waith creadigol gwreiddiol  (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol; 3000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau o’u dewis eu hunain.

Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar bapur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod gweithdai a sesiynau unigol).

Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.

Llunio portffolio ysgrifennu creadigol annibynnol, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arno (y sylwebaeth feirniadol), sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hyn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r theori, y technegau a’r sgiliau a gawsant ar y modiwl CY24020 mewn portffolio o waith creadigol annibynnol. Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y portffolio a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith mewn sawl ffordd: trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus a rhoddir cyfle iddynt gyhoeddi eu gwaith ar-lein. Yn hyn o beth, felly, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Nod

Crëwyd y modiwl hwn er mwyn cyfoethogi darpariaeth yr Adran mewn ysgrifennu creadigol, trwy roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r theori a’r sgiliau a gawsant ar y modiwl CY24020 mewn portffolio annibynnol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Cynnwys

Cynhelir cyfres o seminarau er mwyn cyflwyno a thrafod pob un o’r ffurfiau isod, ynghyd ag ymarfer eu hysgrifennu naill ai’n unigol, mewn parau neu fel grŵp:
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntiau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun y portffolio ehangach.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai ac i weithio tuag at berfformiad mewn noson lenyddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai a’r sesiynau unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer y portffolio gorffenedig yn esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol.
Rhifedd amhertyhnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig; trafodir hefyd y proses o gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno a'i gyhoeddi yn y dulliau print traddodiadol ac ar wahanol lwyfannau ar-lein / electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6