Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Deall a thrafod prif nodweddion gwaith y Cywyddwyr Cynnar o ran cefndir, crefft, a chyd-destun hanesyddol.
2. Darllen a gwerthfawrogi yn annibynnol, yn ddeallus ac yn fanwl gywyddau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
3. Deall a gwerthfawrogi y math o ddylanwadau a fu ar farddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg.
4. Deall a thrafod yn ddeallus brif themâu barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyffredinol, gan ymgydnabod â nodweddion crefft ac arddull y cywydd deuair hirion, ac ambell nodwedd dechnegol fel crefft dyfalu.
5. Deall a dangos ymwybyddiaeth o’r ysgolheictod diweddaraf ym maes gwaith Dafydd ap Gwilym yn benodol gan eu cymhwyso at ymdriniaethau beirniadol â barddoniaeth Gymraeg o gyfnodau diweddarach.
Disgrifiad cryno
Er mai ar waith Dafydd ap Gwilym y canolbwyntir yn bennaf, ceir astudiaeth o ddetholiad o gywyddau’r Cywyddwyr Cynnar gan sylwi ar nodweddion crefft ac arddull. Yn ogystal â darllen a dehongli cywyddau penodol, bydd hefyd gyfle i ymdrin yn feirniadol â rhai themâu o fewn y cyd-destun hanesyddol.
Cynnwys
Darlithoedd 1-8:
Cyflwyniad i farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg o safbwynt hanes y gyfundrefn farddol a hanes cymdeithasol Cymru.
Cyflwyniad i’r canu serch cyfandirol a’i ddylanwad ar farddoniaeth Gymraeg. Ystyried yr agweddau at ferched yn yr Oesau Canol diweddar.
Manylion bywgraffyddol am Ddafydd ap Gwilym a chyflwyniad i’r prif ymdriniaethau â’i waith.
Ymdriniaeth â phwnc awduraeth cerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Darlithoedd 9-20
Darllen yn fanwl a thrafod yn y dosbarth ddetholiad o gywyddau gan Ddafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Madog Benfras, Llywelyn Goch Amheurig Hen a Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Cymerir mwy o amser gydag ambell gerdd er mwyn ei dadansoddi a’i dehongli ymhellach gan ei chymharu a’i chyferbynnu â cherdd arall.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfle mewn trafodwersi gyfraniadau llafar wrth ymateb i destun, ac i ddatblygu gallu ysgrifenedig i drafod a dehongli cerddi. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir medrau trefnu amser a rheoli llif gwaith yn ogystal â medrau dehongli beirniadol. |
Datrys Problemau | Dan gyfarwyddyd mewn dosbarth datblygir gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau’n ymwneud â darllen testunau barddoniaeth o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. |
Gwaith Tim | Bydd cyfle mewn trafodwers i drafod ar lefel grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy dderbyn adborth gan y darlithydd a thrwy ddysgu’n wythnosol fedru darllen testun yn fanwl. |
Rhifedd | Mae gwybod am ddyddiadau cywir a chronoleg gywir yn hollbwysig. |
Sgiliau pwnc penodol | Darllen testunau o gerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn ddeallus. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth feirniadol gynradd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd rhaid defnyddio’r We i ganfod nodiadau ac aralleiriadau o gerddi Dafydd ap Gwilym ar www.dafyddapgwilym.net, a rhai gwefannau perthnasol eraill. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5