Module Information

Module Identifier
CT39020
Module Title
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Estynedig  6000-8000 gair i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Bydd gofyn cyflwyno adroddiad ymchwil yn wythnos 8 yn semester 1. Gall methu â chyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.  75%
Semester Assessment .25 Hours   Cyflwyniad llafar neu boster  Cyflwyniad llafar neu boster. Bydd y cyflwyniad llafar yn cymryd 8-10 munud, tra bydd y poster yn gyflwyniad a baratoir ymlaen llaw, gyda'r aseswyr yn holi cwestiynau ar sail y poster. .25 Awr  25%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Poster a Chrynodeb 1500 gair  Cyflwyniad poster a chrynodeb 1500 gair o'r poster  25%
Supplementary Assessment Traethawd Estynedig  Poster Presentation and 1500 word summary of presentation 6,000 – 8,000 gair. Os bydd myfyriwr yn methu'r asesiad ac yn dymuno ail-gyflwyno, rhaid cyflwyno traethawd ar bwnc sydd yn ei hanfod yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Cynigir adborth gan ym marciwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosib, gan y cydlynydd. Ni ddarperir goruchwyliaeth bellach. Nid oes angen ail gyflwyno cynllun nac adroddiad.  75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

​Dysgu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil mewn maes cyfraith a/neu droseddeg o’u dewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil hwn mewn modd clir a dealladwy er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a’r syniadau sydd yn yr ymchwil yn cael eu hyrwyddo mor eang a phosib.

Cymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil i’w dewis faes o fewn cyfraith, troseddeg neu seicoleg troseddu.

Cynnal ymchwil annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth.

Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.

Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa.

Gellir crynhoi canlyniadau’r hyfforddiant sy’n gysylltiedig a’r modiwl fel a ganlyn:
(a) dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy ddewis testun hyfyw i ymchwilio iddo.
(b) Adolygu, cloriannu a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gafwyd a’r materion a nodwyd.
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd.
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl a’r data yn effeithiol.
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn rhoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw mewn darn o waith ysgrifenedig sylweddol rhwng 6000-8000 gair.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn gofyn ymchwiliad manwl dros ddarn ehangach o waith ac ysgrifennu cyfreithiol a / neu droseddegol mewn perthynas â phwnc arbennig yn hytrach na bod yn seiliedig ar gwrs astudio rhagosodedig. Mater i'r myfyriwr yw dewis pwnc ar gyfer ymchwil fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran ac yna mynd ymlaen i gamau ymchwil ac ysgrifennu'r ymarfer o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd â gwybodaeth am y maes y lleolir pwnc y traethawd hir ynddo. Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raddau â thema ymchwilio i bwnc sy'n berthnasol i'w gradd a byddant yn cael eu cefnogi i ddatblygu hyn drwy gymorth eu goruchwyliwr penodedig.
Mae'r ymarfer cyffredinolsy'n gysylltiedig ag ymchwilio a'r traethawd hir yn adeiladu ar wybodaeth, a hyfforddiant yn y defnydd, o adnoddau llyfrgell a ddarperir ym Mlynyddoedd 1 a 2 y cynllun gradd. Ar gyfer myfyrwyr Troseddeg, bydd hefyd yn adeiladu ar hyfforddiant a defnydd ymarferol o'r gallu i ddeall methodolegau gwyddorau cymdeithasol fel y'u dysgir yn y Sgiliau YmchwilTroseddeg. Bydd myfyrwyr y Gyfraith yn defnyddio'r wybodaeth a'r hyfforddiant yn y defnydd o adnoddau llyfrgell a ddarperir yn y modiwl Sgiliau Cyfreithiol ac Ymchwil.
Mae ymchwil lwyddiannus yn rhagdybio'r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau drwy gronfeydd data a chymhorthion llyfryddol. Darperir canllawiau gan y goruchwyliwr dynodedig drwy gyfres o gyfarfodydd lle mae'r myfyriwr yn adrodd ar gynnydd ac yn cyflwyno drafft ysgrifenedig neu ddrafftiau i wneud sylwadau arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw rhoi cyngor am fethodoleg ymchwil a chyflwyno'r ymchwil yn y traethawd hir eihun.

Mae'r asesiad o'r adroddiad ymchwil wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr yn eu hymchwil a'u galluogi i wella eu perfformiad cyffredinol. Asesir y modiwl drwy ddarllen y traethawd hir gan y goruchwyliwr fel marciwr cyntaf, gan aelod arall o staff fel ail farciwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'n briodol. Asesir y traethawd hir gan gymhwyso meini prawf sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd a digonolrwydd yr ymchwil a chyflwyno deunydd a dadl yn ysgrifenedig. Felly, mae'r asesiad yn ymwneud yn arbennig â'r gallu i weithio'n gymharol annibynnol, i leoli a threfnu deunydd ymchwil perthnasol, ac i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfryngau ysgrifenedig.
Mae asesiad ychwanegol hefyd yn cynnwys cyflwyniad llafar neu boster. Bydd hyn yn asesu gallu'r myfyrwyr i gyfleu trosolwg clir o'u hymchwil a'u canfyddiadau hyd yma.

Content

​Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddiadau ystadegol cymhleth y bydd angen eu deall a’u cloriannu.
Communication Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig a'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal a’r cyflwyniad sy’n ofynnol ar gyfer y gynhadledd israddedig yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol.
Improving own Learning and Performance Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Information Technology Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig.
Personal Development and Career planning Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno.
Problem solving Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes.
Research skills (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus.
Subject Specific Skills
Team work Cynhelir nifer o gyfarfodydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt.

Notes

This module is at CQFW Level 6