Module Information

Cod y Modiwl
CT36120
Teitl y Modiwl
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad nas gwelir Ymlaen llaw  - ailsefyll os methwyd  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad nas gwelir Ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,500 gair) - ailsefyll os methwyd  50%
Asesiad Semester cyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol i blant.  Ymateb creadigol i gyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, a fyddai’n cynnwys rhywbeth wedi’i anelu at blant i hwyluso eu dealltwriaeth o’u beiusrwydd troseddol yn 10 oed (felly byddai angen bod yn briodol i’w hoedran, a gallai fod - ond nid ydynt yn gyfyngedig i - fideo, taflen, poster, cân, rap ac ati). 2500 Words  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

2. Disgrifio sut y mae troseddau ieuenctid, ymddygiad gwyrdroedig ac erledigaeth yn cael eu llunio’n gymdeithasol ac yn gyfreithiol.

3. Dadansoddi’r rhesymau y tu ol i droseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol trwy gyfeirio at ymchwil i agweddau seicolegol a chymdeithasegol llencyndod a’r newid i fod yn oedolyn.

4. Gwerthfawrogi sut y mae trafodaethau gwleidyddol penodol, barn boblogaidd a’r cyfryngau torfol yn dylanwadu ar drafodaethau polisi’n ymwneud a throseddau ieuenctid.

5. Adnabod y prif faterion, polisïau, prosesau a sefydliadau mewn perthynas a throseddu ieuenctid a’r modd y caiff troseddwyr ifanc eu trin.

6. Esbonio i ba raddau y mae’r prif ddamcaniaethau a phersbectifau troseddegol wedi llwyddo i egluro’r rhesymau dros droseddau ieuenctid a sut i fynd i’r afael a’r broblem.

7. Disgrifio a chloriannu polisïau ac ymyriadau o fewn y system cyfiawnder troseddol a gynlluniwyd i leihau troseddau ieuenctid a newid patrymau troseddu ieuenctid.

8. Dangos ymwybyddiaeth o wahanol ddulliau a thechnegau ymchwil a ddefnyddir i archwilio natur troseddau ieuenctid a pha mor gyffredin yw troseddau o’r fath.

9. Disgrifio sut y mae strwythurau swyddogol ac answyddogol, dulliau a phrosesau gorfodi’r gyfraith droseddol, polisïau cyhoeddus a systemau cosbi yn cyfrannu at yr ymgais i reoli ac atal troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwyrdroedig.

Disgrifiad cryno

Mae pobl ifanc yn cael eu cysylltu fwyfwy ag ymddygiad troseddol a gwrth-gymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar y cysylltiad hwnnw ac yn mynd i’r afael a’r materion cymdeithasol a rheoli cymhleth sy’n gysylltiedig a’r maes astudio hwn. Bydd yn adeiladu ar wybodaeth a ddysgwyd ar y cyrsiau sylfaen cynharach ynglyn a pham fod pobl yn troseddu, a’u rhoi yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid a dangos sut y’u defnyddir i gefnogi mentrau polisi. Bydd yn cloriannu llawer o’r mentrau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal a chyflwyno’r myfyrwyr i gysyniad a realiti gweithio rhyngasiantaethol.

Cynnwys

Deall plentyndod a datblygiad plant
Pryd y mae plentyn yn blentyn?
Datblygiad cyfiawnder ieuenctid
‘Troseddu ieuenctid’ – lluniad cymdeithasol?
Persbectifau datblygiadol a chwrs bywyd
Damcaniaethau am Ffactorau Risg
Persbectifau strwythurol a systemig ar droseddu ieuenctid
Trais ieuenctid a gangiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: atal a dargyfeirio, cyfiawnder a lles, a dulliau sy’n canolbwyntio ar risgiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: dulliau adferol
Ymdrin a throseddu ieuenctid: seiliedig ar hawliau, a Phlant yn Gyntaf, Troseddwyr yn Ail
Ieuenctid yn y ddalfa ac ailsefydlu effeithiol
‘Ymataliad’ mewn cyfiawnder ieuenctid
Ymarfer cyfiawnder ieuenctid rhyngwladol
Beth yw’r dyfodol i gyfiawnder ieuenctid?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad). Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd paratoi ar gyfer y seminarau a’r aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd coladu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy
Datrys Problemau Bydd cymhathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y seminarau a'r aseiniadau yn annog meddwl ochrol.
Gwaith Tim Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grwp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Rhifedd Bydd myfyrwyr yn adolygu casgliadau astudiaethau sy’n gysylltiedig a’r maes, ac yn mynd i’r afael a nhw.
Sgiliau pwnc penodol Amherthnasol
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i destunau perthnasol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grwp.
Technoleg Gwybodaeth Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6