Module Information

Module Identifier
CT24820
Module Title
Cyfraith Tir
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
CT10120, CT20120, LC10120 or LC20120 Cynghorir myfyrwyr i cymryd naill ai LC24920 Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau NEU LC34920 Equity and Trusts cyn y modiwl hwn.
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Datganiad o ddadl  2000 o eiriau  50%
Semester Exam 2 Hours   50%
Supplementary Assessment Datganiad o ddadl  2000 o eiriau  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Egluro egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir.

Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.

Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a mynd i’r afael â thrafodaethau a gwahanol safbwyntiau ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.

Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.

Gallu cyflwyno canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.

Deall egwyddorion sefydledig cyfraith tir, a’r modd y mae’r egwyddorion hynny wedi datblygu.

Brief description

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.

Content

1. Beth yw tir?
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau
8 Tir cofrestredig ac anhofrestredig

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Amherthnasol.
Communication Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau.
Improving own Learning and Performance Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth.
Information Technology Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.
Personal Development and Career planning Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith.
Problem solving Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar, a’u trafod.
Research skills Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.
Subject Specific Skills Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion.
Team work Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau.

Notes

This module is at CQFW Level 5