Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Semester Exam | Adroddiad ysgrifenedig 2000 o eiriau | 50% |
Supplementary Exam | Adroddiad ysgrifenedig Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2000 o eiriau | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Cyfleu a chloriannu’n feirniadol yr ymarfer o reoli marchnata a’r modd y caiff ei ddefnyddio ym maes marchnata heddiw.
2. Dadansoddi gwahanol agweddau ar farchnata a deall gweithgareddau rheoli mewn perthynas â hwy.
3. Dangos dealltwriaeth o’r rhan y mae rheolaeth yn ei chwarae mewn strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata.
4. Cymhwyso egwyddorion marchnata i gloriannu a thrafod gwahanol strategaethau marchnata.
5. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cwsmeriaid a chyfathrebu marchnata yn y broses reoli.
6. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o rôl diwylliant a marchnata yn y farchnad fyd-eang a’u rôl mewn perthynas â gweithgareddau rheoli.
Brief description
Mae llwyddiant cyffredinol sefydliad yn dibynnu ar y berthynas a sefydlir rhwng rheolaeth a strategaeth marchnata. Mae’n hollbwysig bod marchnata yn llywio strategaeth, a bod y sefydliad yn canolbwyntio’n weithredol ar anghenion y farchnad. Mae’r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ffocws masnachol sefydliad ei lywio a’i arwain gan reolaeth marchnata.
Content
at ganolbwyntio ar y farchnad – sef y broses datblygu strategol a gweithredoliad rheolaeth marchnata.
- Modelau o Reolaeth Marchnata: Y fframweithiau a’r modelau a ddefnyddir gan reolwyr marchnata wrth ddadansoddi. Bydd
hyn yn cynnwys portffolios, cylch oes cynnyrch, dadansoddi cwsmeriaid a chystadleuwyr.
- Rheoli Brand: Rheoli brandiau trwy ddefnyddio dulliaumarchnata.
- Cynlluniau Marchnata: Datblygu cynlluniau marchnata trwy brosesau fesul cam. Nodi manteision ac anawsterau wrth gynllunio marchnata.
- Perfformiad Marchnata: Mesur perfformiad marchnata a rheolaeth farchnata ar y lefelau strategol a gweithredol.
- Entrepreneuriaeth Marchnata: Datblygu meddwl entrepreneuraidd, sgiliau cynllunio a dealltwriaeth.
- Syfliadau Paradeim mewn Marchnata: Newidiadau o ran y cysyniadau a’r athroniaeth sydd wrth wraidd gweithgarwch marchnata.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Bydd y seminarau’n gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar a chyflwyno, a bydd y gwaith cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr yn ymwneud â busnes. |
Improving own Learning and Performance | Cyflawnir hyn trwy’r seminarau, y gwaith cwrs a’r trafodaethau yn y darlithoedd. |
Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr wneud defnydd priodol o feddalwedd prosesu geiriau a meddalwedd cyflwyno yn eu gwaith cwrs. Dylent hefyd ddefnyddio blackboard a gwneud ymchwil ar-lein |
Personal Development and Career planning | Mae’r dulliau cyflwyno ffurfiol a’r asesiadau yn meithrin dealltwriaeth lawnach o’r sgiliau, y cysyniadau a’r fframweithiau, yn ogystal ag uchelgeisiau a chynllunio gyrfaol y myfyriwr. |
Problem solving | Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau yn rhan o asesiad eu gwaith cwrs a’u hymarferion yn y dosbarth/sesiynau tiwtorial. |
Research skills | Bydd angen gwneud rhywfaint o ymchwil i’r farchnad ar gyfer y gwaith cwrs a’r tiwtorialau, a thrwy hyn bydd y myfyriwr yn meithrin sgiliau ymchwil allweddol. |
Subject Specific Skills | Dealltwriaeth ddyfnach a’r gallu i gloriannu gweithgareddau rheoli yn feirniadol mewn perthynas â marchnata – sy’n agweddau hynod bwysig mewn busnesau heddiw. |
Team work | Bydd ymarferion yn y dosbarth a gwaith yn y seminarau yn gyfle i’r myfyrwyr wella eu sgiliau gweithio mewn tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 5