Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad Ychwanegol Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion | 65% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion 1.5 Awr | 65% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad gwaith prac microbioleg 1000 o eiriau | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad ychwanegol adroddiad botaneg 1000 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Prawf Prac Microbioleg 30 Munud | 15% |
Asesiad Semester | Adroddiad PracBotaneg 1000 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd microbau a phlanhigion
Egluro sut mae microbau a phlanhigion yn rhyngweithio ag organeddau eraill, gan gynnwys dyn, fel pathogenau a chydymddibynwyr.
Gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau a phlanhigion yng nghylchoedd bioddeargemegol ac amaethyddiaeth/biotechnoleg
Arddangos sgiliau ymarferol wrth drafod micro-organeddau.
Disgrifiad cryno
Cynlluniwyd y modiwl er mwyn cyflwyno amrywiaeth bywyd microbau a phlanhigion, eu pwysigrwydd mewn gweithrediadau ecosystemau, eu perthnasau symbiotig a hefyd eu pwysigrwydd i ddynolryw (cnydau, pathogenau ayb.Fe fydd y modiwl yn dysgu sgiliau ac yn cyfleu gwybodaeth a fydd yn hanfodol bwysig ar gyfer gyrfaoedd mewn microbioleg, botaneg, ac ymgynghoriad/rheolaeth ecolegol
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r amrywiaeth o ficrobau a phlanhigion sydd yn bodoli., eu rôl ganolog yng ngweithrediad y blaned, ei pherthnasau symbiotig amrywiol a hefyd eu pwysigrwydd i ddynolryw. Fe fydd y modiwl yn dysgu sgiliau ac yn cyfleu gwybodaeth a fydd yn hanfodol bwysig ar gyfer gyrfaon mewn microbioleg, botaneg, ac ymgynghoriad/rheolaeth ecolegol
Cynnwys
Bydd y cwrs darlithoedd yn dechrau gyda chyflwyniad i dri Parth bywyd ac esblygiad microbau a phlanhigion. Fe fydd agweddau cymhwysol, gyda pherthynas uniongyrchol i ddynolryw yn cael eu trin, ee cnydau mewn amaeth, pwysigrwydd microbau i clefydau anifeiliaid/planhigion, defnydd biodechnolegol o ficrobau (e.e. gwrthfiotigau). Disgrifir fydd y prif grwpiau o fewn Bacteria, Viridiplantae a Ffwng (hefyd firysau) ynghyd a'u nodweddion morffolegol, ffisiolegol ac ecolegol. Trafodir hefyd eu prif gydberthnasau symbiotig, e.e. peilliad gan bryfaid, ymlediad hadau/sborau, microbiom y coluddyn a mycorhisa. Mi fydd dosbarthiadau ymarferol yn enghreifftio ac yn cadarnhau agweddau ar y cwrs darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio microsgopeg golau i archwilio ystod o ficrobau a phlanhigion trwy arbrofion syml.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a thrafodaeth ddilynol yn y dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol mewn arholiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac asesu’n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig. |
Datrys Problemau | Trwy'r darlithoedd, mi ddaw myfyrwyr yn ymwybodol o broblemau amgylcheddol a meddygol penodol a achosir gan ficrobau a'r atebion a ddatblygwyd er mwyn goresgyn y rhain. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o gynllunio, gweithredu, dehongli data a chynnig sylwadau ar arbrofion microbioleg a asesir. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. Bydd yr elfennau astudio cyfeiriedig yn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau dysgu a'u hoff ddulliau eu hunain ac adnabod anghenion a rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. |
Rhifedd | Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau mewn cylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg ac egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd mewn micro-organeddau eucaryotig a procaryotig. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn ymchwilio pynciau y tu hwnt i gynnwys a chwmpas y darlithoedd gan ddefnyddio astudio cyfeiriedig ac annibynnol. Ystyrir a rhoi sylwadau ar wybodaeth o amryw ffynonellau. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trafod sbesimenau microbiolegol) yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4