Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Traethawd Arholiad 1 awr CADD | 50% |
Arholiad Semester | 1 Awr Traethawd Arholiad 1 awr CADD | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad trip maes 1000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad trip maes 1000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o sut mae ecosystemau yn gweithio a swyddogaethau eu darnau
Deall ecoleg ddamcaniaethol sy’n berthnasol i gadwraeth
Deall ac adnabod y galw am gadwraeth o rywogaethau a chynefinoedd
Deall y ddamcaniaeth esblygiadol sy'n berthnasol i gadwraeth lwyddiannus.
Datblygu deallusrwydd o sgiliau arolygu yn y maes sy’n berthnasol i gadwraeth
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn gyflwyniad eang a chyfoes i bwnc ecoleg. Edrychwn ar sut mae systemau'n gweithio ond hefyd sut mae rhywogaethau wedi esblygu i fodoli o fewn y systemau hyn. Bydd y modiwl yn cynnwys elfennau sylfaenol ac amserol ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis ymateb i newid hinsawdd fyd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Rydym am amlygu sut mae cadwraeth wedi datblygu o fod yn gyfres o ymyriadau ad hoc o natur "ymladd tân" fel arfer, i fod wedi selio ar wyddoniaeth gyflawn sy'n ymgorffori agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar ecoleg a bioleg esblygiadol. Mae'r modiwl arfaethedig yn rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y cysyniadau hyn, gyda phwyslais cyson ar eu cymhwysiad ymarferol.
Nod
I ddeallt ecosystemau a'i cadwraeth
Cynnwys
Bydd amrywiaeth o ffactorau anfiotig yn cael eu hadolygu a'u hystyried mewn perthynas â ffactorau biotig gan gynnwys: llysysyddion, cigysyddion a chystadleuaeth. Mae ysglyfaethu yn un ffactor sy'n cyfyngu ar niferoedd y boblogaeth ac yn atal twf esbonyddol, tra yn yr un modd, mae cystadleuaeth am adnoddau yn cael effaith yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudiaeth o'r defnydd o adnoddau gan rywogaethau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a ddiffinnir yn gyffredinol fel y gilfach. O fewn ei ddosbarthiad, fodd bynnag, bydd rhywogaeth yn aml yn dangos addasiad i sefyllfaoedd penodol; bydd enghreifftiau o amrywiad o'r fath yn cael eu trafod.
Trafodir yr heriau sy’n wynebu ecosystemau, bioamrywiaeth a chynefinoedd, newid hinsawdd a’r galw am gadwraeth. Byddwn hefyd yn trafod pwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth ar ystod o raddfeydd, yn benodol trafodir amrywiaeth genetig ar lefelau biomau ac ecosystemau, theori esblygiadol a dulliau ymarferol o warchod rhywogaethau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | gweithio gyda eraill yn y maes |
Datrys Problemau Creadigol | Adrodd o'r maes |
Gallu digidol | Defnyddio TGCH ar gyfer ymchwilio |
Myfyrdod | Gwella'ch dysgu a'ch perfformiad eich hun drwy dderbyn adborth o asesiadau a ddefnyddiwyd i raddnodi sgiliau dysgu |
Sgiliau Pwnc-benodol | Cyfathrebu Mae angen cyfathrebu gwyddonol da i gofnodi canfyddiadau'r ymweliad maes |
Synnwyr byd go iawn | Gwaith maes yn ran hanfodol o'r modiwl |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4