Module Information

Cod y Modiwl
BG17020
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu a Gwyddor Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   MCQ  Arholiad arlein a gyflwynir yn electronig 1.5 Awr  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   MCQ  Arholiad arlein a gyflwynir yn electronig 1.5 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio cynhyrchu llaeth  2000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll Portffolio cynhyrchu defaid  2000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Portffolio cynhyrchu defaid  2000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Portffolio cynhyrchu llaeth  2000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw a dangos dealltwriaeth o anatomi a ffisioleg y da byw o'u fewn.

Nodi'r cyfyngiadau biolegol ar gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn a dangos dealltwriaeth o egwyddorion rheoli cynaliadwy.

Dangos sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau cynhyrchu da byw.

Dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli data fferm da byw.

Disgrifiad cryno

Trwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol ar ffermydd ac o fewn labordai mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.

Nod

Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw fferm yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU.
Deall sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Nodi cyfyngiadau ar gynhyrchu, yn enwedig cyfyngiadau biolegol, a disgrifio arferion rheoli cynaliadwy i'w goresgyn.
Dadansoddi a dehongli data fferm da byw i werthuso perfformiad y system.

Cynnwys

Bydd amser cyswllt y modiwl yn cynnwys tua hanner darlithoedd a hanner gweithgareddau maes neu labordy.

Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw a gwyddoniaeth gan gynnwys systemau defaid, gwartheg eidion, gwartheg godro a dofednod; systemau cynhyrchu wyau a chig dofednod; bioleg da byw gyffredinol; iechyd da byw gan ganolbwyntio ar imiwnedd, parasitoleg, bacteria, protosoa a firysau; systemau biolegol gan gynnwys systemau atgenhedlu, endocrin a threulio; twf a datblygiad a llaetha a rheoli clefydau yn gynaliadwy.

Bydd sesiynau ymarferol yn cynnwys dyraniadau da byw cnoi cil; deall y gylchred cynhyrchu defaid a gweithgareddau rheoli allweddol; systemau magu lloi a magu anifeiliaid am gig eidion; systemau cynhyrchu llaeth gan gynnwys y cylch gynhyrchu, maeth y fuwch a rheoli mastitis; rheoli defaid au hŵyn; cyfrif wyau ysgarthol ar gyfer rheoli parasitiaid mewnol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr aseiniadau, lle bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau.
Gallu digidol Mae angen dadansoddi, dehongli a chyflwyno data gan ddefnyddio Excel yn yr aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd adborth yn cael ei ddarparu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd yr aseiniadau yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y ddarlith. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr aseiniadau. Rhoddir adborth yn yr aseiniad.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd cysyniadau pwnc-benodol sy'n ymwneud â chynhyrchu da byw a bioleg yn cael eu datblygu a'u hasesu yn yr aseiniadau a'r arholiad. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4