Module Information

Cod y Modiwl
BG15720
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau  1 Awr  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd gwaith cwrs  1000 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad labordy (gan gynnwys cyflwyniad llafar)  2000 o eiriau  70%
Asesiad Semester 1 Awr   Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau  1 Awr  20%
Asesiad Semester Traethawd gwaith cwrs  1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Adolygiad labordy (gan gynnwys cyflwyniad llafar)  2000 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau grŵp llafar.

Datblygu dadl resymol a herio rhagdybiaethau.

Llunio rhagdybiaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a gwneud dadleuon academaidd.

Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.

Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).

Dehongli a defnyddio data.

Dangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Cymhwyso dulliau gwyddonol i fynd i'r afael â phroblemau ymarferol, gwir fywyd.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i ymchwilio gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol drwy gyflwyniadau ysgrifenedig a llafar wrth gadw at arddull dyfynnu cywir gydag arfer academaidd dda. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol a hyder i gasglu a dadansoddi data gwyddonol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau hyn trwy ymchwiliad ymarferol mewn i sawl problem wyddonol fforensig gyda dadansoddiad manwl o ddata gwyddonol.

Cynnwys

Bydd Semester 1 yn dechrau gydag wythnos gyntaf ddwys lle bydd nifer o sesiynau labordy yn ystod y cyfnod hwnnw. Yma bydd myfyrwyr yn echdynnu ac yn dilyniannu DNA i asesu codau bar DNA. Bydd y deunydd yma gyda ffocws ar broblemau trosedd bywyd gwyllt neu fforensig entomoleg. Yng ngweddill semester 1, bydd myfyrwyr yn cyfarfod â'u tiwtor dynodedig bob yn ail wythnos i gynnal ymarferion i'w helpu i ddeall cyd-destun y gwaith labordy a'r broses casglu data. Bydd myfyrwyr hefyd yn paratoi a chyflwyno eu hasesiad prifysgol gyntaf ar ffurf traethawd wedi'i osod/marcio gan diwtor (1000-1500 o eiriau) i ymgyfarwyddo â therfynau amser a chyflwyniad asesiad a'u galluogi i dderbyn adborth cynnar.

Bydd semester 2 hefyd yn dechrau gydaG wythnos ddwys o sesiynau labordy a bydd myfyrwyr yn cwblhau llyfr nodiadau o'u canfyddiadau. Bydd yr ymarferion labordy yma yn cael eu tynnu o feysydd megis entomoleg fforensig ac ecotocsicoleg. Yng ngweddill semester 2, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 10 sesiwn cyfrifiadur a drefnwyd yn wythnosol lle byddant yn dysgu sut i blotio ffigyrau a dadansoddi a gwerthuso data yn feirniadol gyda staff wrth law i helpu a darparu adborth ffurfiannol. Bydd data, dadansoddiadau a nodiadau yn cael eu coladu mewn llyfr nodiadau labordy caiff ei asesu, a bydd y llyfr nodiadau yma yn darparu canllawiau Arfer Labordy Da ar gyfer astudio pellach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda help tiwtoriaid i greu cyflwyniad grŵp fel rhan o ymarfer adroddiad y labordy.
Datrys Problemau Creadigol Bydd y myfyrwyr yn casglu ac yn dadansoddi data gwyddonol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn meithrin cymhwysedd a hyder gyda thrin data safonol ac offer graffio gan gynnwys R.
Rhifedd Mae trin data yn thema allweddol yn y modiwl hwn.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o dechnegau labordy ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4