Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau 1 Awr | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd gwaith cwrs 1000 o eiriau | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Adolygiad labordy (gan gynnwys cyflwyniad llafar) 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Semester | 1 Awr Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau 1 Awr | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd gwaith cwrs 1000 o eiriau | 10% |
Asesiad Semester | Adolygiad labordy (gan gynnwys cyflwyniad llafar) 2000 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau grŵp llafar.
Datblygu dadl resymol a herio rhagdybiaethau.
Llunio rhagdybiaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a gwneud dadleuon academaidd.
Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
Dehongli a defnyddio data.
Dangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
Cymhwyso dulliau gwyddonol i fynd i'r afael â phroblemau ymarferol, gwir fywyd.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i ymchwilio gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol drwy gyflwyniadau ysgrifenedig a llafar wrth gadw at arddull dyfynnu cywir gydag arfer academaidd dda. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol a hyder i gasglu a dadansoddi data gwyddonol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau hyn trwy ymchwiliad ymarferol mewn i sawl problem wyddonol fforensig gyda dadansoddiad manwl o ddata gwyddonol.
Cynnwys
Bydd semester 2 hefyd yn dechrau gydaG wythnos ddwys o sesiynau labordy a bydd myfyrwyr yn cwblhau llyfr nodiadau o'u canfyddiadau. Bydd yr ymarferion labordy yma yn cael eu tynnu o feysydd megis entomoleg fforensig ac ecotocsicoleg. Yng ngweddill semester 2, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 10 sesiwn cyfrifiadur a drefnwyd yn wythnosol lle byddant yn dysgu sut i blotio ffigyrau a dadansoddi a gwerthuso data yn feirniadol gyda staff wrth law i helpu a darparu adborth ffurfiannol. Bydd data, dadansoddiadau a nodiadau yn cael eu coladu mewn llyfr nodiadau labordy caiff ei asesu, a bydd y llyfr nodiadau yma yn darparu canllawiau Arfer Labordy Da ar gyfer astudio pellach.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda help tiwtoriaid i greu cyflwyniad grŵp fel rhan o ymarfer adroddiad y labordy. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd y myfyrwyr yn casglu ac yn dadansoddi data gwyddonol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol. |
Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn meithrin cymhwysedd a hyder gyda thrin data safonol ac offer graffio gan gynnwys R. |
Rhifedd | Mae trin data yn thema allweddol yn y modiwl hwn. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o dechnegau labordy ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4