Module Information

Cod y Modiwl
BBM8820
Teitl y Modiwl
Newid Ymddygiad
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  100%
Asesiad Semester Fforwm Ar-lein  (O leiaf 1200 o eiriau)  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad  (20 munud)  35%
Asesiad Semester Astudiaeth Achos  (3000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Esbonio'r heriau presennol a'r dyfodol sy'n gysylltiedig ag ymddygiad yn y gadwyn gyflenwi bwyd a bioseiliedig

2. Trafod hanes a chyd-destun newid ymddygiad

3. Disgrifio'r penderfynyddion seicolegol, cymdeithasegol a chyd-destunol ymddygiad

4. Dadansoddi a gwerthuso nifer o fodelau ac dulliau newid ymddygiad

5. Trafod moeseg a'u defnydd mewn ymyriadau newid ymddygiad

6. Cynnig a chymhwyso dulliau/modelau newid ymddygiad priodol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd​

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am hanes a datblygiad newid ymddygiad fel disgyblaeth, gan gynnwys sut y gall esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol ddylanwadu ar ymddygiad a gyrwyr seicolegol ymddygiad yn ogystal a gwerthuso nifer o fodelau a dulliau o newid ymddygiad cydnabyddedig.

Bydd yn archwilio sut a lle y gellid defnyddio dulliau newid ymddygiad, tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd a biotechnoleg.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn delio a’r canlynol:

1) Hanes/datblygiad dulliau newid ymddygiad - sut mae theori ac ymarfer wedi datblygu ac wedi cael eu defnyddio mewn cymdeithas a gwersi a ddysgwyd o ymarferwyr newid ymddygiad llwyddiannus

2) Y seicoleg a chymdeithaseg y tu ol i newid ymddygiad - sy'n cynnwys y mewnwelediadau ymddygiadol mwyaf dylanwadol neu gydnabyddedig a damcaniaethau newid ymddygiad.

3) Archwilio damcaniaethau sy'n ymwneud ag esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol - sut y gall ddylanwadu ar ymddygiad a'n helpu i ddeall sut mae dulliau newid ymddygiad yn gweithio

4) Cyd-destunoli a dylanwadau ymddygiad yr amgylchedd ehangach - sut y gallai ffactorau y tu allan i reolaeth unigolyn effeithio ar eu hymddygiad

5) Modelau sefydledig o newid ymddygiad - mae sawl model sy'n disgrifio sut y gellir rhoi damcaniaeth newid ymddygiad ar waith; bydd detholiad o fodelau sefydledig yn cael eu hesbonio'n fanwl

6) Moeseg newid ymddygiad - goblygiadau defnyddio dulliau newid ymddygiad i ddylanwadu ar weithredoedd pobl heb eu gwybodaeth na'u cydsyniad

7) Cymwysiadau newid ymddygiad - sut, pryd a ble y gellir defnyddio dulliau newid ymddygiad orau

8) Astudiaethau achos o ymyriadau newid ymddygiad sy'n berthnasol i sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg (e.e. lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, defnyddio ynni, plastig untro).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr fynegi eu hunain yn briodol i’r aseiniad ac i drafod pynciau priodol a’u gilydd yn y fforymau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn rhoi i’r myfyrwyr yr ymchwil diweddaraf i fewn i egwyddorau newid ymddygiad i’w helpu i rannu gwybodaeth/cyngor diweddaraf gyda’u cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bioseiliedig a bwyd-amaeth. Mae newid ymddygiad yn broses adlewyrchol fydd yn anochel yn arwain at ddatblygiad personol a bydd yr asesiadau yn cynnwys trafodaethau adlewyrchol, ond ni fydd asesiad penodol ar ddatblygiad personol gyrfaol.
Datrys Problemau Defnyddir fforymau ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy'n cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. Mi fydd yr astudiaeth achos yn mynnu bod myfyrwyr yn cynnig ffyrdd o gymhwyso modelau newid ymddygiad i sefyllfaoedd penodol.
Gwaith Tim Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad i weld ble all gwelliannau gael eu gwneud ar gyfer yr aseiniadau nesaf. Bydd aseiniad furfiannol yn rhoi cyfle di-risg i gael adborth ac mi fydd 3 fforwm a asesir ble darperir adborth mewn da bryd i wella yn fforwmau canlynol. Bydd cwisiau amlddewis ffurfiannol yn galluogi i fyfyrwyr i weld ble sydd angen ffocysu eu astudiaeth hunangyfeiriedig.
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau yn eu haseiniadau a disgwylir i egluro neu arddangos tystiolaeth i ddilysu barn a fynegir yn yr astudiaeth achos neu’r fforymau.
Sgiliau pwnc penodol Theori a chymhwyso modelau newid ymddygiad. Gwerthusiad o'r gwahanol fodelau a dulliau newid ymddygiad.
Sgiliau ymchwil Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. Yn ogystal â derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amrywiaeth o gronfaoedd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd o'r modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7