Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd gydag atodiadau yn ychwanegol 2500 o eiriau | 80% |
Semester Assessment | Cyflwyniad ac ymateb i gwestiynau 8 Munud | 20% |
Supplementary Assessment | Traethawd gydag atodiadau yn ychwanegol 2500 o eiriau | 80% |
Supplementary Assessment | Cyflwyniad ac ymateb i gwestiynau 8 Munud | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cefnogi a gwella cyflawniad pob dysgwr yn eu gofal.
2. Gwerthuso effeithiolrwydd ystod o strategaethau dysgu ac addysgu a gymhwysir ar draws sectorau cynradd ac uwchradd trwy dynnu ar dystiolaeth yn yr ystafell ddosbarth.
3. Dewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol er mwyn gwella cyrhaeddiad grŵp o ddysgwyr.
4. Myfyrio ar ansawdd eu haddysgu.
Brief description
Dyluniwyd y modiwl craidd hwn i gwrdd â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar Gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Athrawon Cychwynnol yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar addysgeg sy'n ymwneud â: mireinio addysgu; hyrwyddo dysgu a dylanwadu ar ddysgwyr. Oherwydd natur integredig y rhaglen byddwch yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o addysgeg effeithiol ar draws y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y profiadau gwell hyn yn eich galluogi i gael gafael cynhwysfawr ar sut mae dysgwyr yn dysgu ac yn symud ymlaen, gan roi mewnwelediad rhagorol i chi o addysg yn ei chyfanrwydd. Byddwch yn barod i ddewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol ac effeithiol ar gyfer y cyfnod a'r cyfnod allweddol y byddwch yn gweithio ynddo.
Content
Uned 1 - Y term ‘addysgeg’ a’i ystyr a sut y mae gwahanol wledydd ac ymchwilwyr yn ei weld - Rôl ymarfer myfyriol wrth wella ansawdd yr addysgu a’r Dysgu
Uned 2 - Sut mae dysgwyr yn dysgu. Cymhwyso seicoleg ymddygiadol, adeiladol ac adeiladol cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth
Uned 3 - Deall anghenion dysgu dysgwyr - hierarchaeth anghenion Maslow (1954) - Amgylcheddau dysgu ac amodau ar gyfer dysgu a chymhelliant - Y rôl mae iechyd a lles yn chwarae mewn ymgysylltiad a chyrhaeddiad dysgwyr.
Uned 4 - Datblygu cwricwlwm ac egwyddorion dylunio'r cwricwlwm - Cyflwyno cwricwlwm integredig, fel Dyfodol Llwyddiannus, sy'n hawlio fod dysgu i dynnu ar draws ffiniau pwnc
Uned 5 - Egwyddorion sylfaenol dysgu ac addysgu, megis 10 egwyddor TLRP
Uned 6 - Beth yw arfer effeithiol - Addysgeg effeithiol a sut mae hyn yn cael ei lywio gan brofiadau blaenorol a dysgu
Uned 7 - Rôl addysgeg effeithiol wrth hyrwyddo ymgysylltiad gweithredol dysgwyr - Rôl addysgeg effeithiol wrth ddatblygu sgiliau allweddol dysgwyr o lythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol , a’r iaith Gymraeg
Uned 8 - Dimensiynau cymdeithasol a diwylliannol dysgu ac arwyddocâd dysgu anffurfiol - Gwella cyflawniad pob dysgwr. Canolbwyntir ar ystod o strategaethau gwahaniaethu
Uned 9 - Cyfathrebu a rolau allweddol gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu o fewn gwyddoniaeth addysgeg - Cyfathrebu effeithiol - Gweithio gydag eraill i gefnogi dysgu dysgwyr
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd data cyrhaeddiad perfformiad myfyrwyr a dosbarthiadau unigol yn cael ei ystyried gyda'r pwrpas o ddangos gwelliant mewn cyrhaeddiad mewn carfan o ddysgwyr yn dilyn cymhwyso strategaethau dysgu ac addysgu y gellir eu cyfiawnhau. |
Communication | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau. |
Improving own Learning and Performance | Bydd asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ymgorffori mewn llawer o sesiynau i ganiatáu i ddysgwyr fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain ac i ddatblygu strategaethau i wella. Anogir athrawon dan hyfforddiant i archwilio eu profiadau Arbenigedd a Chyfoethogi yn eu Pasbort Dysgu Proffesiynol. |
Information Technology | Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau. |
Personal Development and Career planning | Bydd myfyrio beirniadol yn cael ei ddatblygu trwy aseiniadau ysgrifenedig yn ogystal â thrwy weithgareddau cymheiriaid yn ystod seminarau a lleoliadau ysgol. Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol, yn ffurfio elfen o’r portffolio. Bydd cwblhau'r portffolio yn galluogi myfyrwyr i nodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n cadarnhau eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i lywio eu Pasbort Dysgu Proffesiynol. |
Problem solving | Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant werthuso addysgeg er mwyn dewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol ar gyfer carfan o ddysgwyr. Byddant hefyd yn ystyried yr addysgeg fwyaf effeithiol ar gyfer dysgu pynciau trawsgwricwlaidd. |
Research skills | Bydd ymchwil yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran strategaethau dysgu ac addysgu. |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau canlynol sy'n ganolog i grefft addysgeg, megis: sgiliau meddwl, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau. |
Team work | Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 6