Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 6 Awr Cyflwyniad llafar (10 munud) 6 Awr | 20% |
Arholiad Semester | 6 Awr Cyflwyniad llafar (10 munud) 6 Awr | 20% |
Arholiad Semester | Arholiad ‘gwneud adref’ 2 gwestiwn, 1000 o eiriau yr un, 1 wythnos i’w gwblhau (2000 words). | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad 'gwneud adref' 2 gwestiwn, 1000 o eiriau yr un, 1 wythnos i'w gwblhau (2000 words). | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig (2000 o eiriau) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o natur gymhleth prosesau meddwl ac egwyddorion prif ddamcaniaethau dysgu.
Gwerthuso'r feirniadol ddamcaniaethau, ffyrdd a dulliau o asesu dysgu a meddwl.
Trafod yn feirniadol ddadleuon wrth drafod damcaniaethau, ffyrdd a dulliau o ddysgu a meddwl.
Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw, ac fe'i cynllunnir yn benodol i, ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud a meddwl a dysgu. Mae'r damcaniaethau hyn yn cynnwys: damcaniaethau Piaget, Vygotsky a Skinner. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu harddulliau dysgu ac i gysylltu'r rhain a chysyniadau allweddol yn y maes. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i wneud gwaith arbrofol mewn grwpiau bach er mwyn hybu eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n sail i'r damcaniaethau mawr a'u cymhwysiad.
Nod
Darlith a seminar 1: Datblygiad cyn-geni
Darlith a seminar 2: Datblygiad yr ymennydd
Darlith a seminar 3: Prosesu gwybodaeth
Darlith a seminar 4: Damcaniaethau gwybyddol
Darlith a seminar 5: Datblygiad iaith
Darlith a seminar 6: Damcaniaethau dysgu cymdeithasol
Darlith a seminar 7: Damcaniaeth y meddwl
Darlith a seminar 8: Problemau ymddygiad plant
Darlith a seminar 9: Anhwylderau datblygiadol
Darlith a seminar 10: Datblygiad moesol
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy ddarlithoedd a seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Yn ogystal, bydd y cyflwyniad llafar yn asesu cyfathrebu llafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Caiff sgiliau empathi eu datblygu drwy'r amser a'u cymhwyso i yrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn elfen o'r cyflwyniad llafar. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol. |
Gwaith Tim | Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell. |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
Technoleg Gwybodaeth | Dylid prosesu geiriau ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig a bydd y cyflwyniad llafar yn golygu defnyddio TG. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5