Module Information

Cod y Modiwl
CYM6110
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Hefyd ar gael yn

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll (1000 o eiriau)  20%
Arholiad Semester 20%
Asesiad Ailsefyll Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg)  40%
Asesiad Ailsefyll Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg)  40%
Asesiad Semester Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg)  40%
Asesiad Semester Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Rhoi gwerthusiad beirniadol o swyddogaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyd-destun lleol a rhyngwladol;

Arddangos sgiliau gwrando, dehongli, cyflwyno a chyfathrebu’n raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg;

Gweithio’n annibynnol a chymhwyso’r sgiliau hynny sydd eu hangen i gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu ar y pryd yng Nghymru a thu hwnt, a thrafodir cyd-destunau gwahanol Cyfieithu ar y pryd. Mae gwedd ymarferol bwyisg i’r modiwl hwn, a cheir cyfle i ymarfer a chysgodi cyfieithydd ar y pryd profiadol. Y bwriad yw paratoi myfyrwyr a datblygu eu hyder ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw cynnig blas cychwynnol i fyfyrwyr o’r maes cyfieithu ar y pryd, datblygu sgiliau cyfieithu ar y pryd, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:

1. Cyd-destunau cyfieithu ar y pryd - gweithdy

2. Mireinio sgiliau llefaru a chyfathrebu proffesiynol - gweithdy

3. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd - gweithdy

4. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy

5. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy

6. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy

7. Adolygu a pharatoi ar gyfer yr asesu - gweithdy

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa cyfieithu ar y pryd ar ffurf adroddiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn.
Datrys Problemau Prosesu gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr.
Gwaith Tim Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio
Rhifedd Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall.
Sgiliau pwnc penodol Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg.
Sgiliau ymchwil Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7