Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Prosiect Ailsefyll yr elfennau a gollwyd neu a fethwyd (2,000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ailsefyll yr elfennau a gollwyd neu a fethwyd (3,000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Prosiect Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith. (2,000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | Aseiniad Pecyn o aseiniadau ar wahanol agweddau ‘Cymraeg Ddoe’ a ‘Chymraeg Heddiw’ (3,000 o eiriau) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol a chymdeithaseg iaith.
2. Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r famiaith Geltaidd, ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd ac Indo-Ewropeaidd eraill, Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a’r heriau mae’r Gymraeg yn ei hwynebu yn y cyfnod diweddar.
3. Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol tafodieitheg prif nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, ffactorau sy’n ymwneud â chymdeithaseg iaith sy’n effeithio ar hynt tafodieithoedd y Gymraeg.
4. Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol astudiaethau enwau lleoedd, ac o’r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.
5. Dangos dealltwriaeth o’r heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu mewn perthynas â’r tafodieithoedd, enwau lleoedd, newidiadau demograffaidd, dylanwad y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Cwrs dewisol sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol ieithyddiaeth, sef tafodieitheg, astudiaethau enwau lleoedd, a chymdeithaseg iaith.
Cynnwys
Cymraeg Heddiw (wythnosau 1–5)
• Tafodieitheg a chymdeithaseg iaith: geirfa a phrif gysyniadau’r maes; astudiaeth o ddetholiad o dafodieithoedd.
• Astudiaethau Enwau Lleoedd
Cymraeg Ddoe (wythnosau 6–10)
• Ieithyddiaeth: diffinio’r maes a geirfa’r maes
• Yr ieithoedd Celtaidd; Y Frythoneg; dylanwad Lladin
• Datblygiad yr iaith c. 400 800
• Hen Gymraeg
• Cymraeg Canol: rhagymadrodd
• Cymraeg Canol: dylanwad Saesneg a Ffrangeg
• Tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol
• Syniadau canoloesol am yr iaith
• Syniadau’r cyfnod modern cynnar am yr iaith
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r pynciau a’r egwyddorion a drafodir. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y pynciau a chysyniadau allweddol y modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i deall a dadansoddi tafodieithoedd, enwau lleoledd, a ffurfiau hanesyddol ar yr yr iaith Gymraeg. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (prosiectau) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (prosiect a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5