Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd (2,500 o eiriau) | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2,500 o eiriau) | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth gadarn o’r prif theorïau, safbwyntiau, a chysyniadau wrth astudio troseddegau beirniadol a radical.
2. Gwybod sut mae troseddegau beirniadol yn wahanol i ymagweddau traddodiadol a phrif ffrwd at astudio trosedd a throseddoldeb.
3. Disgrifio sut mae theorïau beirniadol yn gweld trosedd a gwyriad fel cysyniadau a luniwyd yn gymdeithasol ac yn gyfreithiol.
4. Egluro sut mae troseddegau beirniadol yn egluro twf a datblygiad polisïau rheoli trosedd.
5. Adnabod y ddeinameg, prosesau a phroblemau allweddol sy’n wynebu safbwyntiau beirniadol cyfoes mewn troseddeg.
6. Dangos ymwybyddiaeth o sut mae strwythurau a phrosesau swyddogol ac answyddogol gorfodi’r gyfraith a chosbi yn cael eu dylanwadu gan ffactorau gwleidyddol, athronyddol ac ideolegol.
7. Dadansoddi a chloriannu i ba raddau y mae theorïau beirniadol yn herio neu’n cefnogi polisïau cyfoes a luniwyd i leihau trosedd a rheoli’r ‘broblem o droseddu’?
8. Gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae safbwyntiau ffeminyddol wedi’i wneud i droseddeg feirniadol.
Brief description
Mae Troseddeg yn bwnc sy’n rhyngweithio â strwythurau llywodraethol, gwleidyddol a grym. Mae’r modiwl hwn yn asesu i ba raddau y mae’r rhain yn effeithio ar drosedd, troseddwyr a dioddefwyr ac a ddylid ystyried eu bod yn achosi yn hytrach na datrys y broblem. Bydd felly yn ymchwilio i rôl y Wladwriaeth yn rheoli problemau trosedd, rôl y cyfryngau a safbwyntiau’r rhywiau. Bydd hefyd yn ystyried cosb a phynciau fel diddymiaeth a’r defnydd o adsefydlu fel offeryn cymathiadol.
Content
Theorïau gwrthdaro cynnar
Troseddeg Farcsaidd
Troseddeg radical
Realaeth y chwith
Troseddeg ddiwylliannol
Safbwyntiau ffeminyddol
Theori hiliau beirniadol a chroestoriadrwydd
Troseddeg werdd
Uwch-realaeth
Cyfiawnder adferol a datrys gwrthdaro
Troseddeg naratif
Troseddeg cadw’r heddwch
Safbwyntiau beirniadol a ddefnyddir ar gyfer yr isod: polisi trosedd; plismona; diwygio’r deddfau cosbi; ymyriadau troseddwyr
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen o’r modiwl, o leiaf mewn perthynas â rhai theorïau. |
Communication | Anogir sgiliau cyfathrebu llafar a’u gloywi mewn seminarau a hefyd mewn darlithoedd (heb eu hasesu). Caiff sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig eu hymarfer drwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac wrth astudio’n breifat ac wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig ffurfiol mewn aseiniadau ac arholiadau. |
Improving own Learning and Performance | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen testunau dethol ac o’r deunyddiau hyn adeiladu ar eu darlithoedd a phrofi eu dysgu eu hunain, yn enwedig mewn seminarau. Bydd hyn yn eu galluogi i reoli eu dysgu yn well ac i ganfod meysydd sy’n peri problemau y byddant yn derbyn cefnogaeth i’w goresgyn. |
Information Technology | Bydd yn rhaid defnyddio cronfeydd data y llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill er mwyn paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad. Cyfeirir myfyrwyr at gyfeiriadau gwe defnyddiol ac fe’u hanogir i adalw data yn electronig (heb eu hasesu). Bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i’w asesu drwy Turnitin. |
Personal Development and Career planning | Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon. |
Problem solving | Bydd myfyrwyr yn astudio ffynonellau cyfreithiol, damcaniaethol a chymdeithasegol i ganfod sut mae’r rhain yn cydadweithio i ddatrys rhai problemau cyfraith a rheoli trosedd anodd. |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i ddeunyddiau ar lein ac yn y llyfrgell ar gyfer aseiniadau a pharatoi seminarau. Fe’u hanogir i ddatblygu sgiliau ymchwilio personol er mwyn perfformio’r tasgau hyn yn effeithiol. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Yn ogystal â gwaith personol, bydd y seminarau yn cynnwys tasgau gwaith tîm a fydd yn galluogi myfyrwyr i gefnogi ei gilydd mewn dysgu rhyngweithiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6