Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd estynedig 10,000-12,000 gair | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad yng nghynhadledd y myfyrwyr 15 munud | 15% |
Asesiad Semester | Traethawd estynedig 10,000-12,000 gair | 85% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cynllunio cwestiwn ymchwil y gellir ei brofi drwy brosiect empeiraidd
Dangos gallu i osod y cwestiwn hwnnw o fewn cyd-destun damcaniaethol
Dangos gallu i gynnal arolwg effeithiol o’r maes
Dangos gallu i ddewis a chynllunio’r fethodoleg fydd yn taflu goleuni ar y cwestiwn/cwestiynau ymchwil orau
Nodi a thrafod y problemau methodolegol cyffredin
Casglu data
Dadansoddi a gwerthuso data ymchwil yn feirniadol
Dangos gallu i ddehongli canfyddiadau
Dod i gasgliadau sy’n seiliedig ar y canfyddiadau
Sicrhau bod y data’n cefnogi’r casgliadau yn glir
Gosod canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach damcaniaeth a pholisi
Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.
Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa
Disgrifiad cryno
Disgrifiad Cryno: Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gynllunio, cyflawni ac ysgrifennu prosiect ymchwil empeiraidd manwl ym maes Troseddeg.
Cynnwys: Bydd y myfyrwyr yn dewis y pwnc ymchwil mewn ymgynghoriad â’r staff.
Cynnwys
Mae’r modiwl hwn yn cynnwys darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf traethawd estynedig ac asesir eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy’r cyflwyniadau |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r traethawd estynedig empeiraidd yn ffordd dda o ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer eu cyflogaeth a/neu yrfaoedd ôl-raddedig yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Canfod data ac adnoddau |
Gwaith Tim | Yn ystod y seminarau gall myfyrwyr gydweithio ar bwnc penodol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir y myfyrwyr i ymarfer a phrofi eu dysgu eu hunain a’u gallu i ddefnyddio a rhyngweithio â’r deunyddiau trwy ddysgu rhagweithiol yn y sesiynau |
Rhifedd | Disgwylir i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi data |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau ymchwil yn cynnwys: chwilio cronfeydd data, dulliau casglu, dadansoddi ac ysgrifennu |
Sgiliau ymchwil | Mae troseddeg o reidrwydd yn gofyn am ddull rhyngddisgyblaethol o weithio, felly bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau ymchwil mewn nifer o feysydd pwnc gwahanol. Byddant yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu sgiliau ymchwil yn y meysydd hyn. Fe'u hanogir i ddarllen yn eang ac i ddod o hyd i ddeunyddiau yn y llyfrgell ac ar-lein |
Technoleg Gwybodaeth | Wrth baratoi ar gyfer yr aseiniadau bydd gofyn i’r myfyrwyr ddefnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig a meddalwedd eraill. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6