Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Nodi ac egluro egwyddorion sylfaenol cyfraith contractau a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
2. Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer contract sy’n gyfreithiol-rwym.
3. Dangos dealltwriaeth dda o’r modd y caiff contract ei lunio a’i orfodi.
4. Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith contractau, gan nodi problemau ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
5. Llunio dadleuon argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a ffeithiau o achosion perthnasol er mwyn datblygu sgiliau i ddarllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; ac i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol mewn modd soffistigedig ac effeithiol.
Brief description
Mae’r modiwl yn egluro’r gofynion cyffredinol ar gyfer contract dilys. Mae hefyd yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a’r partïon i’r contract. Astudir hefyd wahanol agweddau ar delerau’r contract. Yn ogystal, mae’r modiwl yn edrych ar gyflawni a thorri contract, a’r rhwymedïau sydd ar gael.
Content
Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion allweddol yr amrywiol feysydd a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
Cyflwyniad i Gyfraith Contractau
Ffurfio Contract
Cydnabyddiaeth
Gorfodaeth
Cymhwystra & Chyfreithlondeb
Preifatrwydd Contract
Telerau Pendant ac Ymhlyg
Dosbarthiadau Telerau
Ymgorffori Telerau
Dehongli Telerau
Cymalau Eithrio
Camliwio Contract
Camgymeriad
Dylanwad Gormodol
Llesteirio Contract
Cyflawni a Thorri Contract
Rhwymedïau
Adferiad
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
Improving own Learning and Performance | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
Personal Development and Career planning | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol |
Problem solving | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn yr arholiad. |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
Subject Specific Skills | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
Notes
This module is at CQFW Level 5