Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Cyflwyniad Grŵp | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ysgrifenedig Unigol 2500 Words | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad Ar-lein Aml-ddewis | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Grŵp (15 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ysgrifenedig Unigol 2500 Words | 60% |
Asesiad Semester | Arholiad Ar-lein Aml-ddewis | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Trafod arferion marchnata a'u rôl mewn sefydliadau.
2. Disgrifiwch natur rhyngddisgyblaethol o farchnata fel astudiaeth academaidd o ymarfer
3. Nodi a thrafod beirniadaeth cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol cyffredin sy'n cael eu cyfeirio yn aml at y ddisgyblaeth farchnata
4. Esbonio modelau dadansoddol o'r broses o brynu defnyddwyr ac asesu eu goblygiadau ar gyfer datrysiadau i broblemau marchnata B2C
5. Esbonio modelau dadansoddol o'r broses o brynu busnes ac asesu eu goblygiadau ar gyfer atebion i broblemau marchnata B2B
6. Trafod problemau marchnata gan gymhwyso egwyddorion segmentiad y farchnad, targedu a lleoli
7. Nodi egwyddorion sylfaenol '4P' ac o'u hintegreiddio mewn 'cymysgedd marchnata' sy'n penderfynu ar safle cystadleuol y cynnyrch
8. Asesu cyfyngiadau egwyddorion marchnata syml a nodi materion heriol eraill sy'n rhaid rhoi sylw iddynt gan academyddion ac ymarferwyr marchnata. Dadansoddi’r cymwyseddau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheolaeth effeithiol a deall cyfraniad meddylwyr rheoli allweddol
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hefyd yn ceisio datblygu dealltwriaeth o hanes a natur marchnata fel disgyblaeth busnes craidd a phwnc academaidd, ac o sut y gall gwybodaeth o farchnata gael ei gymhwyso i ffenomena a phroblemau’r byd go iawn mewn busnes a chymdeithas.
Cynnwys
• Egwyddorion Marchnata a Chymdeithas
• Ymddygiad Defnyddwyr o ran Prynu
• Ymchwil Marchnata a Mewnwelediad o Gwsmeriaid
Egwyddorion Rheolaeth Marchnata
• Yr Amgylchedd Marchnata
• Strategaeth Marchnata
• Segmentu Marchnad a Lleoli
• Datblygu'r Farchnad Rhyngwladol
Y Gymysgedd Marchnata
• Arloesi a Chynnig Datblygu Newydd
• Penderfyniadau ar Brisio
• Cyflwyniad i Gyfathrebu Marchnata
• Rheoli'r Gymysgedd Cyfathrebu
• Sianeli Marchnata a Manwerthu
Egwyddorion Marchnata Perthynol
• Penderfyniadau Brandio
• Rheoli Perthynas a Phrofiadau Cwsmeriaid
• Marchnata Busnes-i-Fusnes
• Marchnata Nid-er-Elw
Beirniadaeth a Newid mewn Ymarferion Marchnata
• Marchnata Digidol a’r Cyfryngau Cymdeithasol
• Marchnata, Cynaliadwyedd, a Moeseg
• Safbwyntiau Beirniadol ac Ôl-Fodern mewn Marchnata
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygu sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys sgiliau trafod a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am farchnata. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa. Byddant hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd trefnu a rheoli ffynonellau gwybodaeth. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Datblygu dulliau meddwl yn greadigol i ddatrys problemau. Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posib. Llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp, yn cyfrannu'n effeithiol ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a chyflwyniad grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dyfeisio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu realistig a monitro perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser. |
Rhifedd | Dadansoddi adroddiadau cwmnïau a data rhifiadol arall |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd trefnu a rheoli ffynonellau o wybodaeth a chadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn marchnata |
Sgiliau ymchwil | Cynnal ymchwil i syniadau cyfredol mewn meysydd marchnata. Adnabod deunyddiau o ffynhonellau perthnasol ac o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin. Cyflwyno gwybodaeth a chyflwyno data. Defnyddio e-bost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4