Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 4000 Words | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd 4000 Words | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso’r gwahanol ffyrdd o gyflwyno a chyhoeddi tystiolaeth.
Dadansoddi a chyfosod tystiolaeth empirig berthnasol, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.
Archwilio sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.
Dadansoddi’r gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, defnyddio ac archwilio tystiolaeth mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg.
Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.
Gwerthuso’n feirniadol y ffyrdd y gall defnydd tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.
Arfarnu’n feirniadol sut y gall tystiolaeth lywio a newid arfer proffesiynol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chyflwyno a’i chyhoeddi a bydd yn edrych ar sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chynhyrchu, ei defnyddio a’i harchwilio mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol. Bydd yn edrych ar sut y gall gweithwyr addysg proffesiynol gael gafael ar dystiolaeth ryngwladol a’i dehongli a sut y gallant ymgysylltu’n ystyrlon ac yn foesegol â gwahanol fathau o dystiolaeth. Bydd y modiwl yn archwilio’r ffyrdd y gall y defnydd o dystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol. Bydd yn archwilio sut y gall tystiolaeth lywio ymarfer a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer.
Nod
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol y swyddogaeth y mae tystiolaeth yn ei chwarae mewn ymarfer proffesiynol, o ran llywio arfarniadau proffesiynol, cefnogi arfer myfyriol a chynnal arloesed a newid. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddangos cymhwysiad beirniadol ac arfarniad beirniadol o wahanol fathau o dystiolaeth.
Cynnwys
2. Ymgysylltu â gwahanol fathau o dystiolaeth empirig, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.
3. Archwilio newidiadau mewn ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.
4. Arfarniad beirniadol o sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn effeithio ar wybodaeth ac ymarfer proffesiynol
5. Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.
6. Sut y gall tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.
7. Llywio a newid ymarfer proffesiynol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
Cyfathrebu proffesiynol | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
Datrys Problemau Creadigol | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7