Module Information
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Cynllun ymchwil (2,500 gair) | 30% |
Semester Assessment | Prif aseiniad Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Perfformiad Unigol (hyd at 30 munud) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 70% |
Supplementary Assessment | Prif aseiniad Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 70% |
Supplementary Assessment | Cynllun ymchwil (2,500 gair) | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer prosiect estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.
Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i’r pwnc a’r allbwn a ddewiswyd ganddynt, a’u defnyddio wrth weithio’n annibynnol.
Tafoli cyfres o weithiau beirniadol ac/neu astudiaethau achos perthnasol, a’u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.
Strwythuro a threfnu casgliadau’n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig; neu trwy sgript; neu trwy gyflwyniad cyhoeddus; a gallu adlewyrchu ar y casgliadau ble fo’n briodol.
Brief description
Yn ystod y semester cyntaf, bydd rhaid i bob myfyriwr gyflwyno cynllun ymchwil ysgrifenedig 2,500 o eiriau. Ar sail y cynllun ymchwil, bydd modd i’r myfyriwr ddatblygu’r prosiect ar gyfer creu un o’r allbynnau canlynol:
- traethawd hir ysgrifenedig hyd at 10,000 o eiriau.
- sgript ar gyfer unrhyw gyfrwng, hyd at 60 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
- perfformiad unigol ar gyfer y llwyfan, hyd at 30 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
Amlygir y berthynas glos rhwng ymchwil â gwaith creadigol yn gyson yng nghynlluniau gradd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Trwy roi rhyddid i fyfyrwyr ddewis ffurf eu prosiect ymchwil, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i ddatblygu darn o waith sylweddol sy’n ymgorffori ac yn fynegiant o’r weledigaeth hon.
Yn ystod y semester cyntaf, bydd pob myfyriwr yn dilyn pump darlith/gweithdy, gan weithio tuag at gyflwyno cynnig ymchwil yn ystod yr Wythnos Ddarllen. Un unol â’ch allbwn dewisol, cynhelir un gweithdy grŵp ychwanegol, ac yna un sesiwn tiwtora unigol cyn diwedd y semester. Yn yr ail semester, cynhelir chwe sesiwn tiwtora unigol.
Content
Sesiynau Dysgu:
Semester 1: 6 x darlith/gweithdy 2 awr; 1 x sesiwn tiwtora 30 munud
Semester 2: 6 x sesiwn tiwtora 30 munud
Cynnwys Mynegol ar gyfer y Darlithoedd/Gweithdai:
1. Diffinio Nodweddion Prosiect Ymchwil: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith
2. Llunio Cwestiwn Ymchwil
3. Ymarfer fel Ymchwil
4. Arolwg Llenyddiaeth a Chanfod Ffynonellau
5. Ffurfio Cynllun Ymchwil
6. Sesiwn Grŵp Llai: Methodolegau Ymchwil
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir; ac o bosib cyflwyno’r gwaith trwy gyfrwng cyflwyniad cyhoeddus. |
Improving own Learning and Performance | O ganlyniad i gyflwyno cynnig ymchwil, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda’u cyd fyfyrwyr a’r tiwtor a derbyn adborth ffurfiol yn gynnar yn y broses ymchwil. Rhoddir adborth ar y prosiect yn anffurfiol trwy gyfrwng tiwtorialau, a rhoddir adborth manwl i waith ar y ffurflenni asesu terfynol. |
Information Technology | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r rhyngrwyd i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau prosesu geiriau, ac unrhyw feddalwedd perthnasol eraill, yn unol ag anghenion eu prosiect. |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. Bydd y modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cyrsiau ymchwil uwchraddedig. |
Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, diffinio cwestiwn ymchwil ar gyfer ei ateb, a bod yn ymwybodol o’r heriau a chymhlethdodau sydd ynghlwm ag unrhyw broses ymchwil. |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr darllen, ymchwilio ac (os yn briodol) gwylio ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, perfformiadau) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Subject Specific Skills | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau beirniadol a disgyblaethol, a bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth eang a ddofn o'r llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn eu meysydd ymchwil. |
Team work | Disgwylir i’r gwaith ar y modiwl gael ei gwblhau’n bennaf yn annibynnol. At hynny, ni roddir unrhyw bwyslais uniongyrchol ar ddatblygu sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 6