Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Supplementary Exam (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig (Arholiad Ysgrifenedig) | 50% |
Asesiad Semester | Taflenni gwaith semester 1 | 30% |
Asesiad Semester | Aseiniadau semester 2 Aseiniadau semester 2 x 2 | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gallu i ysgrifennu rhaglenni byr yn Python
Arddangos ymwybyddiaeth o ymarfer da wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer cyfrifiant rhifiadol
Llunio polynomial neu sblein sy'n rhyngosod set o ddata
Deillio a chymhwyso dulliau rhifiadol safonol ar gyfer integru, a dadansoddi cyfeiliornad y dulliau yma
Darganfod isradd (au) hafaliad aflinol gan ddefynyddio dulliau rhifiadol safonol, ac arddangos ymwybyddiaeth o drefn cydgyfeiriant y dulliau yma
Cyfrifo brasamcanion rhifiadol o ddatrysiadau i broblemau gwerth cychwynnol gan ddefynddio dulliau un cam, ac arddangos ymwybyddiaeth o gydgyfeiriant a sefydlogrwydd y dulliau yma.
Nod
Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna’n cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal â dadansoddiad o’r technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o’r dulliau rhifiadol.
Disgrifiad cryno
Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna’n cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal â dadansoddiad o’r technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o’r dulliau rhifiadol.
Cynnwys
1. CYFLWYNIAD I PYTHON: Mathau, newidynnau, gosodiadau “if”, “for” a “while”. Y dehonglydd ac enrhifiad o fynegiadau syml. Golygu, arbed a llwytho cod.
2. STRWYTHURAU DATA YN PYTHON: Rhestrau ac araeau numpy.
3. FFWYTHIANNAU YN PYTHON. Diffinio a galw ffwythiant.
4. TREFNU COD PYTHON. Cynhyrchu dogfennaeth, darganfod a delio ag eithriadau, trefnu cod i fodiwlau.
5. PLOTIO YN PYTHON: Trin data a plotio canlyniadau
Semester 2:
1. RHYNGOSODIAD POLYNOMIAL: Fformiwla Lagrange. Fformiwla Newton a gwahaniaethau rhaniedig. Fformiwla gwahaniaethau ymlaen. Cyfeiliornad rhyngosodiad. Rhyngosodiad sblein giwbig.
2. INTEGRU RHIFIADOL: Rheol trapesoidaidd. Rheol Simpson. Rheolau integru cyfansawdd. Cyfeiliornad integru rhifiadol. Integru Romberg. Rheolau integru math Gauss.
3. DATRYSIAD I HAFALIADAU AFLINOL MEWN UN NEWIDYN: Dull dwyrannu. Dulliau pwynt sefydlog a mapiadau cyfangu. Dull Newton. Trefn cydgyfeiriant.
4. PROBLEMAU GWERTH CYCHWYNNOL: Bodolaeth ac unigrywedd datrysiadau. Dull Euler. Cyfeiliornad blaendoriad lleol. Cysondeb. Cydgyfeiriant. Sefydlogrwydd. Dulliau un-cam cyffredin. Dull trapesoidaidd. Dulliau rhagfynegi a chywiro
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'n rhaid i atebion ysgrifenedig i ymarferion a dogfennaeth cod fod yn glir ac wedi'i strwythuro'n dda. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol i gynnydd llwyddiannus yn y cwrs. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd cwblhau tasgau (taflenni gwaith a thaflenni problemau) erbyn y dyddiadau cau yn hybu datblygiad personol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu sydd â galw mawr amdanynt. |
Datrys Problemau | Bydd ymarferion yn cael eu gosod a'u marcio. Bydd y rhain yn cynnwys deillio a cymhwyso dulliau rhifiadol a gwerthuso'u cyfeilornad. |
Gwaith Tim | Na |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain tuag at reoli amser er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd, ac er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol rhwng darlithoedd a gweithdai. Dylent weithredu ar adborth, er enghraifft yr adborth yn y gweithdai ymarferol a roddir gan arddangoswyr ac adborth y darlithwyr wrth farcio gwaith. |
Rhifedd | Angenrheidol trwy gydol y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau rhaglennu, sgiliau dadfygio, sgiliau rhifedd, sgiliau dadansoddi rhifiadol. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio cyfrifiadur. Chwilio trwy ddogfennaeth iaith a’r llyfrgell. |
Technoleg Gwybodaeth | Gosodir ymarferion i fyfyrwyr mewn gweithdai sy'n cynnwys datblygu cod cyfrifiadurol. Bydd angen iddynt allu defnyddio cyfrifiaduron a chyfleusterau'r llyfrgell drwy gydol y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5