Module Information

Cod y Modiwl
FG11120
Teitl y Modiwl
Grymoedd ac Egni
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad Ailsefyll  100%
Arholiad Semester 3 Awr   70%
Asesiad Semester Taflenni enghreifftiau i'w cwblhau yn ystod y semester addysgu.  30%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchol, electrostatig a magnetig a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau rhifol ar systemau syml.
2. Disgrifio priodweddau sylfaenol deunyddiau deuelectrig, magnetig, a deunyddiau sy'n dargludo trydan.
3. Cyfrifo y grym ar ronynnau wedi'u gwefru mewn meysydd trydanol a magnetig a disgrifio mudiant gronyn gwefredig mewn maes trydanol unffurf.
4. Cyfrifo potensial system o ronynnau gwefredig.
5. Disgrifio strwythur a swyddogaeth gwrthyddion a chynwysyddion a defnyddio diagramau gwedd, dulliau fector a rhifau cymhlyg i ddadansoddi cylchedau cerrynt eiledol.
6. Disgrifio egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ffiseg atomig, niwclear a gronynnau a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau o systemau syml.

Nod

Mae'r modiwl yn ystyried yr egwyddorion creiddiol i feysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn cyflwyno magneteg, trydan a chylchedau trydan. Mae hefyd yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol mewn ffiseg atomig, niwclear a gronynnau. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r taflenni enghreifftiau yn cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer modiwlau uwch yn Rhan 2.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn trafod y grymoedd mewn meysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn eu disgrifio yn nhermau'r ddeddf wrthdro sgwar gydag enghreifftiau darluniadol. Disgrifir hefyd y meysydd a'r potensialau cysylltiedig. Defnyddir gwefr a cherrynt trydanol, meysydd magnetig ac anwythiad electromagnetig i ddisgrifio gweithrediad cylchedau trydanol a phriodweddau deuelectrig a magnetig defnyddiau. Mae'r modiwl hefyd yn cyflwyno'r ffiseg sylfaenol sy'n greiddiol i ffiseg atomig, niwclear a gronynnau.

Cynnwys

MAES DISGYRCHIANT
1. Deddfau Kepler.
2. Deddf disgyrchiant Newton.
3. Egni potensial disgyrchiant.

ELECTROSTATEG:
1. Meysydd trydanol a chymwysiadau deddfau Coulomb a Gauss i wefrau trydanol mewn ffurfweddau geometreg gwahanol.
2. Potensial trydanol mewn perthynas a maes trydanol, arwynebau unbotensial.
3. Deunyddiau dargludo trydan, lled-ddargludo a deuelectrig.
4. Cynwysyddion a dwysedd egni.

MAGNETEG:
1. Meysydd magnetig, dolenni cerrynt a deunyddiau magnetig.
2. Deddfau Biot-Savart ac Ampere wedi'u cymhwyso i geryntau trydanol mewn gwifrau a solenoidau.
3. Anwythiad electromagnetig (Deddfau Faraday a Lenz), hunan anwythiad a dwysedd egni magnetig.

TRYDAN DC:
1. Cerrynt a gwrthiant, Deddf Ohm, gwrthedd.
2. Cylchedau cerrynt union (DC) - gwrthyddion mewn cyfres a pharalel, gwrthiant mewnol, egni a ph'rr.
3. Cylchedau rhannu potensial a rheolau Kirchoff.

TRYDAN AC :
1. Ceryntau eiledol (AC) mewn cylchedau gwrtheddol, cynhwysaidd ac anwythaidd.
2. Adweithedd a rhwystriant, effeithiau byrhoedlog. Dadansoddiad cylchedau AC gan ddefnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg.
3. P'rr ac ongl gwedd. Cylchedau RCL mewn cyfres a pharalel ac amodau cyseiniant.

FFISEG ATOMIG, NIWCLEAR A GRONYNNAU
1. Mas niwclear ac egni clymu.
2. Dadfeiliad ymbelydrol.
3. Gronynnau elfennol, grymoedd sylfaenol a'r model safonol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau yn y gweithdai.
Rhifedd Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol.
Sgiliau ymchwil Bydd y darllen cyfeiriedig yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio cefndir darlithoedd y modiwl. Gwneir hyn drwy ymarferion wythnosol a fydd hefyd angen ymchwil yn y llyfrgell thrwy defnyddio'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4