Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Dadl ysgrifenedig Ymryson cyfreitha (20 munud ) cyflwyno dadl gyfreithiol ar lafar. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig - Dadansoddiad beirniadol o destun penodol (2000 gair) | 70% |
Asesiad Semester | Llafar Ymryson cyfreitha (20 munud) cyflwyno dadl gyfreithiol ar lafar. | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig - Dadansoddiad beirniadol o destun penodol (2000 gair) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth ymarferol dda o sgiliau ysgrifennu academaidd yn gyffredinol, a sgiliau ysgrifennu a fformatau penodol ar gyfer astudio’r gyfraith a pharatoi dogfennau cyfreithiol.
2. Dangos eu bod yn gyfarwydd a darllen, ymchwilio ac astudio dogfennau cyfreithiol a chronfeydd data cyfreithiol, gan roi sylw arbennig i ddeddfwriaeth a chyfraith achosion.
3. Defnyddio sgiliau dadansoddi beirniadol/datrys problemau uwch mewn perthynas â darllen deunyddiau cyfreithiol.
4. Dangos sgiliau da o ran cyflwyno llafar/ymryson cyfreitha/eiriolaeth a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno dadl gyfreithiol gadarn.
5. Gallu dangos eu bod yn gallu llunio dadleuon cyfreithiol cadarn.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad trylwyr i’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i astudio’r gyfraith.
Cynnwys
Mae’r modiwl yn rhoi i fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf/blwyddyn mynediad eu hastudiaethau y sgiliau academaidd sydd eu hangen i astudio’r gyfraith. (Gweler y canlyniadau dysgu am restr fanwl o’r sgiliau dan sylw). Bydd y modiwl yn darparu cyflwyniad trylwyr i’r sgiliau sydd eu hangen i astudio’r gyfraith. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond bydd yn cynnwys dadansoddi beirniadol, eiriolaeth (gan ganolbwyntio’n benodol ar ymryson cyfreitha), darllen achosion, llunio nodiadau achos, darllen deddfwriaeth, ffynonellau cyfreithiol, defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, dulliau cyfreithiol, rhesymu cyfreithiol, ysgrifennu traethodau a phapurau cyfreithiol ac ati.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol a datblygu dadleuon cyfreithiol trwy eirioli ar lafar gyda myfyrwyr eraill mewn ymrysonau cyfreitha. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn cael cyngor ynghylch y cyfleoedd amrywiol y mae gradd yn y gyfraith yn eu cynnig, a sut y caiff y gyfraith ei ddysgu yn y brifysgol. |
Datrys Problemau | Trwy ddadansoddi a nodi gwahanol feysydd o’r gyfraith, egwyddorion y gyfraith; datblygu dadleuon cyfreithiol wedi’u seilio ar sefyllfaoedd damcaniaethol. |
Gwaith Tim | Bydd gwaith grwp mewn seminarau a chymryd rhan mewn timau ymryson cyfreitha mewn parau yn annog y myfyrwyr i gydweithio a’u cyd-fyfyrwyr. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori a’u hannog i reoli eu hamser astudio annibynnol. |
Sgiliau pwnc penodol | Paratoi dadl gyfreithiol; ysgrifennu cyfreithiol; ymchwil gyfreithiol; sgiliau eiriolaeth; dulliau cyfreithiol; darllen cyfraith achosion; darllen deddfwriaeth; paratoi amlinelliad o ddadleuon ar gyfer yr ymryson cyfreitha. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, Aber Primo, Google Scholar. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol yn hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5