Module Information
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd ysgrifenedig (1500 gair) | 50% |
Semester Exam | 1.5 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd ysgrifenedig (1500 gair) | 50% |
Supplementary Exam | 1.5 Hours Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth fanwl o egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd, yn ogystal a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
2. Nodi’n gywir yr elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.
3. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu dangos eu bod yn datblygu sgiliau trwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.
4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o gwmpas cyfraith camwedd, gan nodi problemau cyfredol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
5. Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr a chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a disgrifio cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.
6. Llunio dadleuon perthnasol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau sylfaenol mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dangos eu bod yn datblygu sgiliau i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol mewn modd digonol.
Brief description
Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.
Content
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
- Cyflwyniad i gyfraith camwedd
- Camweddau bwriadol yn erbyn y person
- Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
- Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
- Amddiffyniadau i esgeuluster
- Niwsans
- Rylands v Fletcher
- Difenwad
- Diogelu preifatrwydd
- Atebolrwydd am anifeiliaid
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Communication | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
Improving own Learning and Performance | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
Personal Development and Career planning | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol. |
Problem solving | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn eu harholiad. |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
Subject Specific Skills | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grwp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
Notes
This module is at CQFW Level 4