Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 60% |
Asesiad Semester | Adroddiad ymchwil cwrs maes (2,500 geiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Gwerthfawrogi syniadau presennol ynghylch natur cymunedau o blanhigion mewn tirweddau
2. Defnyddio'r termau a ddefnyddir i adnabod planhigion a chymunedau a bod yn hyderus ym maes adnabod ystod o blanhigion ac anifeiliaid
3. Gwerthfawrogi'r angen am gynlluniau cofnodi biolegol a llunio strategaethau samplu priodol ac argymell technegau samplu ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, cynefinoedd ac amgylchiadau.
4. Cynnal arolwg cymunedol, gan gyflwyno a dadansoddi eu data, a chrynhoi'r canlyniadau i safonau gwyddonol priodol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn disgrifio sut mae cymunedau planhigion yn rhyng-gysylltiedig yn y dirwedd. Mewn tirwedd ceir matrics sylfaenol sy'n cynnwys darnau o gymunedau neu fosaig cymhleth. Mae'r ddau yn adlewyrchu patrwm yr adnoddau a'r cyfyngiadau sydd yn y dirwedd (o ran amser a gofod). Gall tirweddau ymddwyn fel "archsystemau" ac mae cysylltedd yn bwysig iddynt weithio. Nid yw poblogaethau o rywogaethau unigol wedi'u hynysu, ond yn hytrach yn ffurfio metaboblogaethau sy'n cyfrannu at eu sefydlogrwydd. Yn y modiwl ystyrir y newidiadau mewn cymunedau dros gyfnod o amser, gan edrych ar olyniaeth a llystyfiant ar ei "anterth". Rhoddir ystyriaeth i ffenomenau naturiol a dynol sy'r effeithio ar gymunedau planhigion, a bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod rhywogaethau a datblygu sgiliau arolygu mewn ystod o wahanol gynefinoedd yng Nghymru. Cynhelir sesiwn arolygu sgiliau i fyfyrwyr am 5 diwrnod yn ystod gwyliau'r Pasg. Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol, ond bydd yn rhaid i gyfranogwyr drefnu eu llety eu hunain.
Cynnwys
Ystyrir newidiadau mewn cymunedau dros gyfnod o amser. Nid ydynt yn aros yn llonydd, ond yn newid, yn aml mewn ffyrdd sydd fel petai'n rhagweladwy. Gall y newidiadau gael eu gyrru gan ddilyniant y rhywogaethau sydd yno (hunangenedledig/autogenic), neu gan amodau amgylcheddol sy'n newid gydag amser (alogenig). Awgrymwyd y ddamcaniaeth cymhareb-adnoddau fel peirianwaith ar gyfer llystyfiant ar ei "anterth", ond gwelir diwedd pwyntiau newid lluosol mewn llawer o ardaloedd.
Yn y modiwl rhoddir ystyriaeth i ffenomenau naturiol a dynol sy'n effeithio ar gymunedau planhigion. Gall anifeiliaid, wrth bori, ddangos lefel uchel o arbenigaeth wrth lunio cyfansoddiad cymunedau planhigion, tra bydd tan naturiol yn dileu bio-mas mewn llawer o dirweddau. Gall defnydd dynol olygu math syml o ddileu bio-mas, megis mewn systemau gwair; neu fe all fod yn ddetholus, gan ganolbwyntio ar rywogaethau penodol neu grwpiau penodol o unigolion (megis rhai sydd tua'r un maint a'i gilydd) ar gyfer rhyw ddefnydd arbennig, a thrwy hyn, bydd yn effeithio ar natur y gymuned. Trafodir disgrifiadau o gymunedau planhigion a'r dosbarthiad gofodol, o ran dulliau rhifol (dosraniad a dosbarthiad) a dulliau llysgymdeithasegol disgrifiadol (wedi'r cynrychioli gan NVC).
Gwyliau Pasg: Cwrs maes pum diwrnod yn lleol i ddatblygu arbenigedd ar gyfer adnabod rhywogaethau planhigion mewn ystod eang o gynefinoedd gwahanol yng Nghymru.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyflwyniadau wedi'u hasesu yn ystod y cwrs maes (wedi'u hintegreiddio i'r prif asesiad). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Yn cynnig sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o arolygu. Sgiliau hanfodol i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn gyrfa amgylcheddol / cadwraeth. |
Datrys Problemau | Dadansoddi samplau a data. Synthesis ac asesiadau mewn sesiynau ymarferol. |
Gwaith Tim | Gweithgareddau dysgu mewn grwpiau yn ystod y dyddiau arolygu i ddatblygu sgiliau tîm. Casglu data mewn grwpiau ar gyfer asesiad maes. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dysgu wedi'i dargedu mewn ffordd sy'n gwella perfformiad dros gyfnod o amser. Darperir enghreifftiau o gwestiynau arholiad drwy gydol y modiwl. Rhoddir adborth ar farciau a chynnydd yn ystod y cwrs maes. |
Rhifedd | Casglu data, ei ddadansoddi a dehongli data arolwg ar gyfer asesiadau maes. |
Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion ac anifeiliaid. |
Sgiliau ymchwil | Darllen ychwanegol i gefnogi cynnwys darlithoedd ac ymchwilio ar gyfer asesiadau maes. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio adnoddau ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5