Module Information

Cod y Modiwl
TC26520
Teitl y Modiwl
Dogfen Greadigol
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
FM26520
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddianus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Fideo  60%
Asesiad Semester Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennau Ategol  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio creadigol yn cynnwys rholyn arddangos  60%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Ysgrifenedig a Dogfennau Ategol  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffilmiau Dogfen, a'r gallu i'w creu.

2. Adnabod a diffinio'r canlyniadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchu ffilm ddogfen. Bydd y canlyniadau yn canolbwyntio ar : adrodd straeon, arddulliau gweledol/golygu a thechnegau cynhyrchu priodol.

3. Dangos cymhwystra technegol a logistaidd ar draws cynhyrchu camera sengl.

4. Gwerthuso ac asesu gwaith cynhyrchu, dangos gallu i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl ymarferol hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynhyrchu ffilmiau dogfen creadigol ac yn gyflwyniad hanfodol wrth baratoi tuag at Ymarfer Creadigol Annibynnol yn y Drydedd. O’r herwydd, bydd yn rhoi syniad o’r amrywiaeth eang iawn o arddulliau ffilmiau dogfen - ail-greu dramatig, deunydd archif, animeiddio, troslais, effeithiau sain, cerddoriaeth, cyfweliadau, sinema arsylwi. Canlyniad terfynnol y modiwl hwn fydd Dogfen Greadigol 5 munud o hyd.

Nod

Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth gadarn i fyfyrwyr o broblemau a phosibiliadau creadigol cynhyrchu ffilm ddogfen, yn ogystal â gwybodaeth am dechnegau camera sengl.

Nod y modiwl yw datblygu sgiliau crefft gwaith camera ac arferion golygu yn ogystal â datblygu swyddogaethau a chyfrifoldebau er mwyn gweithio'n effeithiol a chydweithio fel tîm cynhyrchu.

Mae'r modiwl hefyd yn anelu at godi safonau proffesiynoldeb yng ngwaith cynhyrchu, cyflwyniadau a chynigion.

Cynnwys

Sesiynau Dysgu:

10 x 4 awr Gweithdy
5 x 4 awr Gweithdy Golygu


Wythnos 1 - Cyflwyniad i'r modiwl, gan gynnwys sesiwn diweddaru am y camera/sain ac ymarfer arsylwi.

Wythnos 2 - Ymarfer cyfweld

Wythnos 3 - Ymarfer dweud stori a sut i gynnig syniad gogyfer a'r prosiect terfynol.

Wythnos 4 - Ymarfer gweithgaredd, ffurfio grwpiau a cynnig syniad ffilm derfynol.

Wythnos 5 - Datblygu sgiliau cyn gynhyrchu.

Wythnos 6- Tiwtorialau Grŵp ac adborth ar ddatblygiad ffilm derfynol

Wythnos 7 - Tiwtorialau Grŵp - Ffilmio ffilm derfynol

Wythnos 8 - Tiwtorialau Grŵp - Golygu ffilm derfynol

Wythnos 9 - Tiwtorialau Grŵp - trosleisio/teitlau ffilm derfynol

Wythnos 10 - Dangos y Prosiectau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu'r sgriptiau. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn cynnwys sgiliau cyfathrebu uchel. Trafodir hefyd waith sy'n cael ei ddangos a phynciau perthnasol, ynghyd â beirniadu sgriptiau personol y myfyrwyr. Anogir myfyrwyr i drafod yn fwyfwy manwl a soffistiedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn rolau wedi'u diffinio'n broffesiynol mewn gweithdai ac ymarferion a asesir, ac fe fyddant felly yn cael syniad o gynhyrchu proffesiynol yn y cyfryngau.
Datrys Problemau Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael ag amrywiaeth o broblemau cyfarwyddo a sinematograffig yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn fwy penodol, bydd myfyrwyr yn ystyried technegau adrodd straeon, cyfarwyddo a golygu priodol. At hyn, wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys y problemau logistaidd, cyllidebol a thechnegol sydd ynghlwm â chynhyrchu.
Gwaith Tim Bydd y gweithdy yn cynnwys gwaith grŵp wrth gynllunio a gweithredu'r gwaith cynhyrchu. Bydd cynhyrchu'r fideos yn golygu cydweithredu'n agos iawn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y cwrs yn gofyn am feirniadu pob agwedd ar y gwaith cynhyrchu, o'r cyfarwyddo i’r golygu. Ar ben hynny, bydd y cwrs yn mynnu bod y myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchir wrth lunio’r sgript. Anogir y myfyrwyr i addasu eu gwaith wrth ymateb i'r asesiad hwn. Bydd yr aseiniad ysgrifenedig/traethawd beirniadol yn gwerthuso'r darn fideo.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu sgiliau cyn-gynhyrchu drwy'r cysyniad o gynyrchiadau lluosog, a'u cynllunio. Datblygir sgiliau cynhyrchu camera sengl i lefel uwch. Datblygir sgiliau golygu drwy ôl-gynhyrchu gwaith fideo.
Sgiliau ymchwil Bydd cynhyrchu'r gwaith fideo yn gofyn am ymchwilio i amrywiaeth eang o weithiau cynhyrchu ffilmiau dogfen, yn ogystal â deunyddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd saethu a golygu’r fideos yn golygu ymchwilio i'r systemau technegol a ddefnyddir wrth eu creu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd dyddiaduron, sgriptiau a chynigion yn cael eu geirbrosesu. Bydd y ffilm Fideo Digidol yn cael ei golygu ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Avid Media Composer. Mae'n bosibl y defnyddir cymwysiadau a thechnolegau cyfrifiadurol eraill, gan ddibynnu ar brosiect cynhyrchu penodol y myfyriwr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5